Charles Griffith, Ty'n Rhos, Llannor, Farmer : Will 1847.
Yn enw Duw, Amen.Myfi Charles Griffith o'r Ty'n Rhos yn mhlwyf Llannor, ac yn swydd Gaernarfon, Ffarmwr, y seithfed dydd ar hugain o Chwefror yn y flwyddyn o oedran yr Arglwydd, un mil wyth gant a saith a deugain (1847).
Ydwyf yn gwneuthur fy Ewyllys a'm Testament diweddaf hwn yn y modd a'r dull canlynol.
Yn gynta' rwyf yn rhoddi ac yn cymmuno i Catherine Griffith fy merch ieuengaf y swm o Bedair Punt ar Hugain a'r gwely pren gorau, a'r dresar derw sala.
Hefyd yr wyf yn rhoddi i fy merch Catherine y tŷ neu y lle mae Robert William yn byw ynddo, cyhyd ar y parha'r lease a bydd hi byw cyhyd ond os na bydd ei hesgutorion i'w gael. Caiff yr Executor dair blynedd o amser i dalu yr arian dywededig uchod i Catherine, sef wyth bunt bob blwyddyn.
Rwyf yn rhoddi ac yn cymmuno i fy anwyl wraig Elizabeth yn ei hoes y tŷ sy dan lease genyf lle mae Margaret Jones yn byw, ac wedi marw Elizabeth bydd y tŷ rhwng fy mab Samuel Griffith a fy merch Catherine.
Rwyf yn rhoddi ac yn cymmuno hefyd i'm mab Samuel Griffith y tŷ sydd dan lease, lle mae Ellin Griffith yn byw ac i'w aerod ar ei ôl.
Rwyf yn rhoddi ac yn cymmuno i fy merch Gwen sy'n byw yn y batting y fuwch sydd yn awr gyda hi.
I fy mab Griffith rwyf yn rhoddi y swm o un swllt.
Yr un swm o un swllt i fy mab John.
Yr un swm o un swllt i fy merch Mary.
Yn ddiweddaf yr wyf yn rhoddi ac yn cymmuno i fy mab Samuel Griffith, yr hwn wyf yn ei wneuthur yn 'Sgutor (Executor) a'r cwbl o'm heuddo yn y tŷ ac allan, o bob math a allaf fod yn ei feddiannu yn amser fy marwolaeth, ond iddo ef dalu y cymmun nodir a enwais yn yr ewyllys hwn. Felly rwyf yn ei benodi ef yn unig Executor o'm Ewyllys a'm Testament diweddaf hwn, ac yr wyf yn galw yn ôl ac yn dadwneud pob ewyllys neu ewyllysiau eraill a wnaethym, ac yn cadarnhau hwn i sefyll ac yr run ond hwn i fod yn ewyllys diweddaf i mi.
Yn ngwydd y tystion sydd a'u henwau wrth hwn yr wyf yn arwyddo fy llaw a'm seal y dydd a'r flwyddyn a enwyd uchod. Llawnodwyd seliwyd gan y Testmentwr Charles Griffith yr hwn yw ei ewyllys diweddaf yn ei gwydd a ninau yn ei wydd yntau.
Hugh Williams Sychnant
David Williams Cefn Coch.
On the twenty eighth day of June in the year of our Lord, one thousand eight hundred and forty seven (1847), the aforesaid Will was insinuated proved approved and in common form of Law decreed valid and Administration granted to the within named Samuel Griffith, Sole Executor, he having been first sworn in common form of Law, and that the whole of the Goods Chattels Effects and Credits of the said deceased do not amount in value to the sum of one hundred pounds.
Before me William Williams Surrogate.
The Testator died on the 20th day of March 1847.
A true and perfect Inventory taken this 8th day of June in the year of our Lord 1847, of all and singular Goods and moveable Effects of Charles Griffith of Ty'n Rhos in the Parish of Llannor, in the County of Carnarvon and Diocese of Bangor, Yeoman, deceased, the said goods were appraised by us whos enames are underwritten.
| £ | s | d | |
| One Holy Bible | 0 | 05 | 00 |
| Wearing Apparel | 1 | 00 | 00 |
| 3 Milking Cows | 16 | 00 | 00 |
| 1 Heifer | 4 | 10 | 00 |
| 2 Yearling Heifers | 4 | 05 | 00 |
| 2 Mares | 16 | 00 | 00 |
| 4 Pigs | 3 | 00 | 00 |
| 4 Sheep | 2 | 08 | 00 |
| Oats | 4 | 10 | 00 |
| Implements of Husbandry | 5 | 00 | 00 |
| Household Stuff | 8 | 10 | 00 |
| 65 | 08 | 00 |
William Prichard Ty Mawr and Hugh Williams Gors Goch Appraisers.