Thomas Griffith, Tanybryn, Llannor, Farmer : Will 1846.
Hon ydyw fy Ewyllys ddiweddaf I Thomas Griffith o Tanybryn yn Mhlwyf Llannor yn Swydd Gaernarfon.Yr ydwyf yn rhoddi a gadael fy holl eiddo, da a stock i mewn ac allan i fy mab Griffith yn hollol oddieithr y swm o ugain punt yr ydwyf yn ei rhoddi a'i gadael i fy wyr Thomas, mab fy nywededig fab Griffith a'r swm o ugain swllt yr ydwyf yn ei roddi a'i adael i fy mab Hugh.
Yr ydwyf yn dewis ac apwyntio fy nywededig fab Griffith yn ysguttor neu gymmun weinyddwr fy ewyllys ddiweddaf hon pa un ydwyf yn ei chyfaddef a'i chadarnhau fel fy ewyllys ddiweddaf a chan ddiddymu pob un arall ydwyf yn cyhoeddi hon yn unig fy Ewyllys a'm Testment diweddaf fel yr arwydda fy llaw y pedwerydd dydd a'r ddeg o Chwefror un mil wyth gant a chwech a deugain.
Arwyddwyd a chyhoeddwyd gan y dywededig Destamentwr Thomas Griffith yn ein presenoldeb ni y rhai a roddasom ein henwau fel tystion ar ei ddymuniad ac ei ei wydd ef.
Owen Roberts
John Griffiths
On the thirtieth day of June in the year of our Lord one thousand eight hundred and forty six, the within written Will was insinuated proved approved and in common form of Law decreed valid and Administration granted to the within named Griffith Griffith, Sole Executor, he being first sworn in common form of Law and that the whole of the Goods Chattels and Credits of the said deceased do not amount in value to the sum of one hundred pounds.
Before me William Williams Surrogate
The Testator died on the 2nd day of June 1846.
A true and perfect Inventory of all and singular the Goods Chattels and Effects of the late Thomas Griffith of Tanybryn, Parish of Llannor, County of Carnarvon, Diocese of Bangor, Farmed. Deceased. Made and appraised by us undersigned (Gratis) as witness our hands this 13th day of June 1846. £ s d
| £ | s | d | |
| Wearing Apparel | 2 | 00 | 00 |
| 1 Cow and Heiffer | 7 | 10 | 00 |
| Sheep and Lambs | 4 | 00 | 00 |
| Pigs | 2 | 05 | 00 |
| Barley and Oats | 2 | 05 | 00 |
| Hay | 1 | 05 | 00 |
| Potatoes | 2 | 00 | 00 |
| Implements of Husbandry | 4 | 00 | 00 |
| Household Furniture | 4 | 00 | 00 |
| 29 | 05 | 00 |
Maurice Lewis Rhydyclafdy Owen Roberts Rhyllach.