John Gough, Penybont, Llannor, Farmer : Will 1839.

Yn enw Duw ac ewyllus Duw a wneler Amen.

Myfi John Gough o Benybont, ymhlwyf Llannor yn Sir Gaernarvon, Ffarmwr, ydwyf wael a sal o gorph, ond yn gyflawn a pherffaith yn fy nghoffadwriaeth a'm dealltwriaeth, i Dduw byddo'r diolch, ydwyf yn gwneuthur yn cyhoeddi ac yn ordeinio fy Ewyllys a'm Testament diweddaf, yn y dull a'r modd canlynol, hynny yw, yn gyntaf yr ydwyf yn rhoddi ac yn cymmynnu i fy merch Catherine Jones y swm o ddeg punt o arian cyfreithlon Lloegr.

Hefyd yr ydwyf yn rhoddi i fy mhlant Evan Jones, Thomas Gough, Ellin Pennie, Dorothy ac Elizabeth swm o un swllt i bob un ohonynt. A'r gweddill o'm holl eiddo a'm duoedd yn wyf yn ei rhoddi yn gwbl oll i fy anwyl wraig Mary Gough ac i'w rhoddi a'i gadael ar ei hol fel y byddo hi yn gweled yn orau.

Hefyd yr wyf yn gosod ac yn ordeinio fy anwyl wraig Mary Gough yn unig Weinyddes ag Esgutores of Ewyllys a'm Testament diweddaf hwn, ac yn diddymu pob ewyllys neu ewyllysiau eraill, ac yn cadarnhau ac yn tystio mae hwn yw fy Ewyllys a'm Testament diweddaf. Tystiolaeth fy llaw a'm sel y trydydd dydd ar hugain o fis Awst yn y flwyddyn o oedran ein Harglwydd un mil wyth gant a deunaw a'r hugain (1838).

Wedi ei gyhoeddi ei selio a'i gadarnhau gan John Gough yn ein gwyddfod ni y rhai ydym dystion presennol wrth ei orchymyn a'i ddeisyfiad ef ac yn mhresenoldeb ein gilydd hefyd.
William Williams Vicar Llannor
Anne Williams Servant at Penybont

On the 20th day of November in the year of our Lord one thousand eight hundred and thirty nine, the within written Will was insinuated proved approved and in common form of Law decreed valid and Administration granted to the within named Mary Gough, Sole Executrix, she being first sworn in common form of Law and that the whole of the Goods Chattels and Credits of the said deceased do not amount in value to the sum of one hundred pounds.
Before me William Williams Surrogate.

This is a true and perfect Inventory of all the Goods Chattels and Credits of the late John Gough of Penybont in the Parish of Llannor in the County of Carnarvon and Diocese of Bangor, Farmer, made and appraised by us (Gratis) this 6th day of November in the year of our Lord 1839.

  £ s d
Wearing Apparel and Saddle 4 00 00
Household Furniture 10 00 00
4 Cows and Heiffer 26 10 00
Horses 18 10 00
Pigs 3 00 00
One Cart 3 00 00
One Plow 0 10 00
Harrow 0 05 00
Barley 10 00 00
Oats 4 00 00
Hay 10 00 00
Potatoes 6 05 00
Implements of Husbandry 1 10 00
  97 10 0

Henry Hughes and Evan Jones Appraisers.

LlGC Ewyllysiau Plwyf LLANNOR Parish Wills NLW/h3>