Griffith George, Penybryn Gellidara, Llannor, Farmer : Will 1828.

Yn enw Duw Amen.

Myfi Griffith George o Benybryn wyf mewn gwaeledd a ran fy nghorph, ond yn meddiannu fy synwyrau a'm cof yn berffaith, clod i'm Duw am hynnu. Wyf wedi galw i'm cof farwoldeb fy nghorph, ac yn gwybod ei fod wedi ordeinio i bob dyn farw unwaith i neud ac i ordeinio hwn i fod yn Ewyllys a Thestament diwedda i mi.

Hynnu yw yn benna ac yn flaena o bob peth yr wyf yn rhoddi ac yn gorchymyn fy annwyl a'm hunig enaid i law yr Hollalluog Dduw yr hwn a'i rhoes - am gorph wyf yn ei orchymyn i'r ddaear i'm claddu yn hardd fel Cristion, ac yn credu y caiff fy nghorph hwn ei adgyfodi o'r bedd yn yr adgyfodiad mawr cyffredinol trwy allu a nerth fy Nuw - ac i gyffwrdd a'm meddianau y byd presenol fel ac y mae Duw wedi fy llwyddo ynddo.

Yr wyf yn rhoddi, yn caniatau ac yn pennu (yn ôl fy addewid) i'm hannwyl ferch Dorothy, gwraig Robert Williams y swm o ddeg punt o arian cymeradwy, neu ynta ei gwerth o'm meddiannau.

Am holl euddo a'm meddiannau i gyd ac yn gyflawn yn fy nhy ac allan o'm tŷ (heblaw yr hyn a enwyd uchod) wyf yn ei rhoddi i'm hannwyl wraig Jane cymmun weinyddes yr ewyllys hwn ac iddi hithau wneuthur a nhw fel yr ewyllysia ac yr wyf yn cadarnhau hwn i fod fy ewyllys diweddaf ac wrth hwn yr wyf yn rhoddi fy llaw a'm sel heddiw y chweched a'r hugain o Tachwedd yn y flwyddyn 1827.
Maurice Lewis
Robert Roberts Tystion

On the 21st day of May in the year of our Lord 1828, the aforesaid written Will was insinuated proved approved and in common form of Law decreed valid and Administration granted to the within named Jane George, Sole Executrix, she being first sworn in common form of Law and that the whole of the Goods Chattels and Credits of the said deceased do not amount in value to the sum of £20.
Before me William Williams Surrogate

A true and perfect Inventory of all the Goods Credits and Effects of the late Griffith George of Penybryn in the Parish of Llannor in the County of Carnarvon, Farmer deceased made and appraised by us (gratis) this twentieth day of May in the year 1828.

  £ s d
His Wearing Apparel 2 00 00
Household Furniture 6 06 00
 Credits and Other Effects 11 00 00
  19 06 00

Richard Roberts and Robert Roberts Appraisers.

LlGC Ewyllysiau Plwyf LLANNOR Parish Wills NLW