MARW.
Mae genym heddyw i gofnodi marwolaeth Mr. William Robinson, o'r lle uchod. Yr oedd yn 65 oed ac wedi dioddef cystudd am yn agos i 9 mlynedd, yn dawel a dirwgnach. Dyn hynaws a charedig dros ben, ac yn neilltuol o hoff o blant. Bu yn athraw ffyddlon am flynyddau meithion, a chymerai ran arbenig mewn cysylltiad a'r bobl ieuainc, dyna oedd hoffder mawr ei fywyd. Dydd Iau, daeth tyrfa luosog i dalu y gymwynas olaf iddo. Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parchedigion W. Williams, Talysarn, a John Jones, Brynrodyn. Yr oedd yr angladd o dan yr hen drefn, a gwasanaethwyd ar lan y bedd ym mynwent St. Rhedyw, Llanllyfni, gan y rheithor.Cydymdeimlir yn fawr a'i weddw, sydd wedi ei gadael yn unig. Daeth rhai o bobl ieuainc Tanyrallt o bellder ffordd i'w angladd, o barch i'w weithgarwch a'i garedigrwydd iddynt.