ROWLAND JONES. LLANLLYFNI, CAERNARFON.
CLODDFA GORSEDDAU, GER TREMADOG.
Dydd Mawrth, Ionawr 12fed, cymmerodd damwain bwysig le yng Ngloddfa Gorseddau, Cwmstrallyn, i ddyn o'r enw Rowland Jones, Ty'n llwyn, Llanllyfni.Yr oedd twll wedi ei wneud yn y graig gyda pheiriant a ddefnyddir yn y gloddfa, ac yr oedd R. Jones wedi rhoddi oddeutu deg pwys ar hugain a bylor ynddo. Goleuodd y gwelltyn, a chiliodd o'r neilldu; ac wrth weled ei bod yn hwy nag arferol yn tanio, dychwelodd i'r lle. Ond cyn gynted ag y cyrrhaeddodd i'r lle, taniodd, a thaflwyd y dyn ieuanc druan i fyny i'r awyr i'r uchder o oddeutu wyth llath, ac mewn cyfeiriad allanol, fel ag y syrthiodd dros y gefnen ar ba un y safai i lawr i'r safle nesaf; yr oedd y pellder o'r naill i'r llall oddeutu 17 o latheni.
Gan hyny, yr oedd yr holl uchder o ba un y syrthiodd yn 25 o latheni. Disgynodd ar ei draed, a thorwyd y clocs oedd am ei draed yn amryw ddarnau. Niweidiwyd ei wyneb yn drwm; ond y lle a dderbyniodd fwyaf o niwed oedd ei ranau tu mewnol. Ond coledda y meddyg beth gobaith am ei adferiad.