MR. DAVID OWEN JONES.

Bore dydd Iau, Mehefin 4, bu farw Mr. David Owen Jones (Eillion), priod Mrs. Elizabeth Jones, 12 Victoria Terrace, Nantlle, yn 66 mlwydd oed.

Yn ei ddydd ystyrid ef yn un o adroddwyr gorau a fu ar ein llwyfannau erioed, ac arwahan i'w fynych fuddugoliaethau yn ein prif wyliau, rhoddodd oes da i wasanaethu mewn cyngherddau elusennol ac achosion dyngarol yn y Dyffryn a'r cylch.

Yr un modd ei briod hefyd a ystyrid yn adroddwreg lwyddiannus dros ben. Ni enlywsom i Eillion erioed adrodd darnau digrif, nid nad oedd y gallu ganddo, eithr y darnau arwrol, gwladgarol y dwys a'r tyner a hoffid yn bennaf ganddo. Hawdd fuasai helaethu ar ei gymwysterau fel adroddwr, ac i'w gymeriad dilychwyn, ond gwyr pawb cyfarwydd am ei allu, ac y mae Cymru heddiw'n dlotach o golli Eillion.

Cafodd gystydd maith; bu'n orweiddog am dros bedair blynedd ac er ceisio gwellhad yn Ysbyty Llangwyfan am gyfnod hir, idiodd yn dawel i'r drefn yng ngeiriau bardd Ben Bowen, “Iesu a wyr beth sy' orau.”

Y mae cydymdeimlad yr ardal a'i briod, ei ddwy ferch, a'i unig chwaer, Mrs E. J. Roberts, Bangor, yn eu galar.

Bu'r angladd (preifat i ddynion) ym mynwent Macpela, Penygroes, ddydd Llun Mehefin 8. Gwasanaethwyd yn y tŷ ac ar lan y bedd gan y Parch. Robert Williams, Llanllyfni, a'r Parch. O. T. Williams, curad St Ioan, Talysarn.

Y prif alarwyr oedd : Mrs Elizabeth Jones (gweddw), Miss Phyllis Jones (merch), Mr a Mrs G. L. Rees (merch a mab ynghyfraith); Mr a Mrs E. J. Roberts (chwaer a brawd ynghyfraith). Methodd Mrs Roberts fod yn bresennol oherwydd gwaeledd. Mri. Meredydd Rowlands, David T. Rowlands, Richard Jones, Edward Jones, R. O. Williams, William Roberts, R. J. Davies, J. Axon, T. V. Williams, W. T. Williams, Hugh Jones, Henry Jones, Richard Jones, Samuel Williams, Humphrey Jones, Robert Owen, G. R. Richards, O. Myfyr Roberts, Hugh Morris, J. A. Jones, D. Jones.

Yn y tŷ yr oedd Mrs Hugh Morris a Mrs Henry Jones.

Yr ymgymerwr oedd Mr Osborne Jones, Clynnog Road, Penygroes. Gweler englynion ar ei ôl ym Mharlwr y Beirdd.