OWEN WILLIAM HUGHES. BRYNDYFFRYN, TALYSARN, LLANLLYFNI.

Marw Tri Mewn Teulu yn Talysarn.

Trist a phrudd iawn oedd y dygwyddiad a gymerodd le yn hanes teulu Mr. a Mrs. William Hughes, Pendyffryn, Talysarn, Dyffryn Nantlle.

Ymwelwyd a'r teulu gan yr haint sydd yn tramwyo ein gwlad y dyddiau hyn, sef y "fflu." Collodd un o'r meibion y dydd yn 32 mlwydd oed, sef Owen W. Hughes, ac yna cymerwyd ei chwaer ymaith, Annie Mary Hughes, yn 18 mlwydd oed, ac yn dylyn ei brawd, Evan W. Hughes, yn 24 mlwydd oed.

Parodd y newydd fraw trwy'r cylch i gyd, a phawb yn sefydlu eu meddwl ar y tri anwyl hyn yn barod i'w dodi gyda'u gilydd yn y bedd. At hyny, yr oedd y tad ac un arall o'r meibion yn y gwely o dan yr un haint.

Claddwyd y tri gyda'u gilydd ar y 17eg o Ebrill, yn mynwent Macpelah, Penygroes, ac er ei bod yn gwlawio'n drwm, daeth tyrfa fawr nas gwelwyd ei bath erioed yn hanes y Dyffryn i hebrwng gweddillion y tri.

Engineer yn chwarel Dorothea oedd Owen, a phawb yn ei hoffi. Yr oedd Evan wedi cymeryd iddo ei hun fusnes pobydd y diweddar Parry, High Street, Penygroes; ac Annie yn gofalu am y masnachdy; ac yr oedd i'r ddau le mawr yn serch yr ardal, gan mor garedig a siriol oedd y ddau. Yr oedd Evan yn gerddor addawol iawn hefyd, a dyfodol dysglaer o'i flaen.

Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu caredig yn colli tri o'u plant hawddgar, glan eu bywyd, a hardd eu rhodiad, yr un pryd. Dyma darn mawr o'r teulu yn y bedd yr un dydd, a gadawyd i alaru ar eu hol, y tad a'r fam, a dau frawd gartref, sef John a Richard, a dau gyda'r fyddin yn Ffrainc, sef William a Bob; ac yn y wlad hon, Thomas W. Hughes, 131 Centre Avenue, Plymouth, Pennsylvania.
T. E. H.

Y Drych ~ Mai 22ain 1919.