HUGH JONES. TALYMIGNEDD, DRWSYCOED, LLANLLYFNI.

Loes drom i ardal Drwsycoed fu marw yr hen gymrawd dyddorol Mr. Hugh Jones, Talymignedd, ddigwyddodd tua thri o'r gloch, wythnos i'r Sadwrn diweddaf, ac efe ar riniog ei 86 mlwydd oed. Hen gymeriad gwreiddiol, tanllyd ei ysbryd oedd, ac wedi gwneuthur enw iddo'i hun mewn byd a bettws. Daeth ei riaint i amaethu yn Nhalymignedd pan oedd Hugh Jones yn faban, ac yno treuliodd ei oes laen ag eithrio rhai blynyddau y bu yn Panama a thir Awstralia.

Bu ei fywyd yn llawn rhamant a gwaith, a daliiodd hyd henoedd y difr o ysbryd ac yn gymhesur ei feddyliau. Cadwodd ei synwyrau i'w wasanaethu yn ddifeth hyd ei farw, er iddo lesghau o gorff ers blynyddau. Cafodd yrfa lwyddianus fel amaethwr cyfrifol yn ein tud, a thlid gwarogaeth i'w farn mewn achosion o bwys ym myd yr amaethwr. Aeth Talymignedd dan ei ddwylo yn dir bras, toreithiog, a chododd yrroedd o anifeiliaid graenus eu gwedd.

Ond yr hynodrwydd amlycaf ynddo oedd ei sel a'i eiddgarwch fel diacon ac ysgrifenydd eglwyd Drwsycoed am yn agos i 35 mlynedd. Ni chafodd Annibynwyr Cumru ragorach a ffyddlonach cefn na'r hen wron gwresog hwn, a gwyr gweinidogion ei enwad yn dda am ei fanylder yn llanw'r swydd o ysgrifenydd. Meddai ar ddawn arbenig i drafod pobl, a phan fu i'r graig syrthio a malurio yr hen gapel, cofir yn dda am y dull medrus yr aeth ein harwr o gwmpas y wlad i godi capel newydd. Cafodd roddion urddasol, gan wreng a bonedd, ac ymrododd ddydd a nos i gario cerrig i'w godi, a chasglu'r aur i ddwyn y draul. Roedd ei fryd ar weithio yn y cysegr, a daliodd i'r diwedd yn un o bileri'r achos yn Nrwsycoed, a does yr un cymwynaswr yng ngro' Cymru sydd yn teilyngu parch dyfnach na fo.

Saif y capel yn gof-golofn o'i egni a'i ymroddiad, a bydd cenedlaethau yn cofio ac yn mawrygu ei wasanaeth difefl. Roedd iddo ddawn ddi-debyg fel siaradwr, a melus fu ei wrando yn anerch y saint ar bob pryd. Darllenodd lawer, a gwnaeth ei astudiaeth o'r prif feistri ei ol ar ei ymadroddion.

Yr oedd yn ysgrythyddwr cadarn, ac yn medru ei ffordd yn rhwydd hyd lanerchydd cysegredig gair Duw. Meddai lyfrgell gyfoethog o lyfrau hen a diweddar, ac yn ei phorfa cafodd saig a sudd i arlwyo gwledd fres yn wastad i'w wrandawr. Er anhawdded iddo oedd cerdded hefo'i ddwy ffon i'r capel, daliodd yn ddygn i fynd i'r moddion trwy y tew a'r teneu.

Daeaewyd ei weddillion ym Macpelah, Penygroes, ac yn ol ei drefniant ei hun preifat fu ei angladd. Trefnodd yn ofalus sut i weithredu ychydig oriau cyn ei dranc, ac aeth ddoethed a threfnu adnod testyn ei bregeth angladdol y Sul gan y Parch. H. Davies, Abererch. Cymerwyd rhan yng ngwasanaeth y claddu gan y gwr parchedig uchod, a'r Parch. Morris Williams, Baladeulyn, ac Eifionydd, a siaradwyd geiriau tyner am ei sel, a'i ras, ar dorlan ei fedd. Cydymdeimlir yn fawr a'i unig fab, Mr. H. O. Jones, a'i briod, ac a'i wyrion. Yno y carterfai hyd y diwedd, a chafodd bob croeso a chymorth dan gronglwyd y teulu caredig. Bellach, wylwn ei golli, a'r nefoedd a edrych am yr Eliseus hwnw i lanw'r bylchau sy'n aros yn Nrwsycoed wedi ymadawiad yr hen broffwyd o'n plith.

Herald Gymraeg ~ Medi 14eg, 1915.