MARWOLAETH DYN DA.

Un felly oedd y diweddar Mr. Griffith Jones, Pantdu Terrace, Talysarn, a adwaenid yn well yn ein mysg fel "Griffith Jones, Pwllheli," Bu farw foreu Llun Diweddaf, wedi dioddef cystudd byr. Yr oedd iddo air da yn y gymdogaeth. Perchid ef gan ei gydweithwyr, ac edrychid arno fel cymeriad i'w efelychu. Gwr cadarn ydoedd yn yr Ysgrythyrau, a ffyddlon iawn fu ef gyda'r achos yn Hyfrydle (M.C.) Dydd Sadwrn cymerodd yr angladd le ym mynwent Macpelah, y Parch. J. Jones, Hyfrydle, yn gwasanaethu. Cydymdeimlir a'r weddw a'r plant, un o'r plant yn Granville, hithau wedi cyfarfod a phrofedigaeth yno, sef colli ei phriod. Dymunir ar i'r "Drych" gofnodi yr uchod.

Herald Gymraeg 12/05/1914