Bu farw Mrs. Jane Williams, anwyl briod Mr. William Williams, Penybont, peirianydd yn chwarel Dorothea, ar ol dioddef p honi yn drwm oddiwrth wendid corfforol.
Bu yn briod ffyddlon ac yn fam ofalus. Cysegrodd ei hunan i wasanaeth ei theulu, a gellir dweud am dani ei bod yn un o'r gwragedd hyny ydoedd yn gwarchod
adref yn dda. Gadawodd briod a nifer luosog o blant, y rhai sydd wedi ymsefydlu yn y byd, ac mewn angylchiadau cysurus, Y mae yr ieuengaf adref yn gofalu am
y tad. (Dymunir i'r "Drych" gofnodi yr uchod.)