Gofidus iawn genyf ddeall am farwolaeth yr hen gyfaill Mr. Alexander Henderson, Talysarn. Cafod gystudd maith. Meddyliais droeon alw i'w weld ond dym'r cyfle wedi ei golli.
Clywais ef yn canu laweroedd o weithiau mewn gwahanol leoedd. Gwelais ef yn enill yn llawer amlach nac y byddai yn colli. Nid wyf yn cofio i mi ei glywed yn grwgnach ar ôl
colli erioed. Yn gyffredin byddai mor siriol ar ôl colli a phan fyddai wedi enill. Drwg genyf nad allaswn fod gyda'r dyrfa a'i hebryngodd ef i'w fedd. Mae i'r teulu oll fy
nghydymdeimlad mwyaf cywir yn y brofedigaeth. Mae yr hen gyfeillionyn cael eu symyd o un i un, ac y mae y wers yn amlwg. Chwaer iddo ef ydyw y gantores enwog Mrs Henderson
Jones. Canodd y ddau gyda'u gilydd nes enill aml i fuddugoliaeth. Nid cerddor yn unig oedd yr hen gyfaill, enillodd wobrwyon lawer mewn cylchoedd eraill. Bydd melus fy
adgofion amdano.