ANGAU YN CONCRO.
Yn yr ysbyty yng Nghaernarfon, bu farw y brawd ieuanc, Charles Williams, gynt o Tai Newyddion, Talysarn.Ymosodwyd arno gan yr hen elyn "pla gwyn", a dygn fu ei ymgais i'w orchfygu, ond o'r diwedd bu rhaid iddo ildio er yng ngwanwyn bywyd.
I Macpelah, Penygroes, y dygwyd ei weddillion i'w claddu prydhawn Sadwrn. Cyn cychwyn o Gaernarfon gwasanaethwyd gan y Parch. R. W. Jones, Cilgwyn.
Cymeriad hoffus oedd Charles Williams, ac adnabyddus i lawer. Bu yn aelod defnyddiol o Seindorf Arian y Dyffryn.