MARW HENWR HYNOD.
Mewn canlyniad i ergyd o'r parlys, nos Sadwrn, bu farw Mr. William Owen, Llythyrdy, Nantlle, fore Mawrth, yn 71 mlwydd oed.Mab ydoedd i'r diweddar Mr. O. Owens, y crydd, Talysarn. Yr oedd yn henafgwr hynod ar fwy nag un cyfrif. Yr oedd yn eithriadol o heini a sionc o gorff ac ysbryd, ac yn dal yn landeg a hoenus hyd ei dranc. Meddai wybodaeth gyffredinol tu hwnt i'r cyffredin, ac yr oedd ganddo ddawn ymadrodd fel y mor, yn ffraeth a miniog ei dafod, ac hefyd yn foneddig a charedig. Dangosodd lawer o allu fel hynafieithydd a gwleidyddwr, ac yn Rhyddfrydwr argyhoeddiadol. Yr oedd ganddo law dda at bopeth, ac yn hynod gelfydd. Bu'n llongwr am flynyddoedd, a bu ymhob rhan o'r byd. Cadwodd am flynyddau fasnachdy crudd yn Nhalysarn, ac yr oedd iddo lu mawr o gyfeillion.
Chwaer iddo oedd Mair Alaw, mam y ddeufrawd Francis o Nantlle, ac yr oedd ganddo frawd adnabyddus fel bardd, Ioan Dwythwr, a brawd arall yn R.A.M. fel datganwr.
Teimlir colled fawr ar ei ôl ym Maladeulyn. Dilynai gyda chysondeb difwlch bob ffurf ar foddion gras, a bu'n aelod ffyddlon a llafurus o'r gymdeithas lenyddol. Cyhoeddai ei farn heb ddeilen ar ei dafod, a fflamai ei natur dros bob math ar wirionedd.
Cydymdelmlir yn fawr a'r ferch, Mrs Jones, y Post. Collodd gefn da ym marwolaeth ei thad, ac ychwanegir ei thrallod gan fod ei phriod, Mr. D. Samuel Jones yn Awstralia.
Claddwyd ym Macpelah, Penygroes, dydd Sadwrn.