GWYWO YN IEUANC.

Dyma hanes y chwaer ieuanc, Mrs Hannah Thomas, Llwyndy Bach, Penygroes, annwyl briod Mr. Richard J. Thomas. Oddeutu hanner blwyddyn yn ôl unwyd y ddau mewn priodas, ond yn gynar fore Llun, daeth angau ymlaen i ddatod y cwlwm priodasol. Torwyd hi i lawr yn 30 mlwydd oed.

Prydhawn ddydd Iau, claddwyd ei gweddillion ym Macpelah, ac er y ddrycin, daeth tyrfa fawr ynghyd, ac hawdd oedd gweled fod i'r teulu le cynes yng nghalonau'r cymdogion.

Gwasanaethwyd gan y Parchn. T. P. Williams, Groeslon; E. Pritchard, Talysarn a D. Davies, Ebenezer, Llanllyfni. Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu oll yn neillduol y priod ieuanc, ynghyd a'r tad a'r fam Mr. a Mrs. John Griffith (Caerhengan), y ddau yn adnabyddus yn Lleyn, gwlad eu maboed.

Herald Gymraeg 17/02/1914