UN YN RHAGOR.

Fore Mawrth, bu farw un arall o frodorion y Dyffryn, Mr. Robert Pritchard (gof), Rhiwlas Road, Talysarn. Brawd tawel a chymeradwy, hysbys iawn i'r chwarelwyr, fel crefftwr medrus a chywrain. Bu am hir amser yn dilyn ei alwedigaeth yn chwarel y Cilgwyn. Yr oedd ei ddiweddar frawd, Lewis Prichard, y gof fel yntau yn weithiwr medrus, ac erys enw da y ddau frawd ar arfau y gweithwyr am hir amser, yn sicr.

Eto, cydymdeimlir a'r teulu hwn yn y brofedigaeth.

Herald Gymraeg 20/01/1914