MARWOLAETH.
Wedi cystydd trwm, bu farw Miss Martha Thomas, Ty Newydd, gynt yn ochr y Cilgwyn. Yr oedd tua 75 mlwydd oed.Chwaer ydoedd i'r diweddar flaenoriaid Mri. Richard Thomas, Thomas Roberts a William Thomas, Ty Newydd. Gedy dair chwaer, Miss Ann Roberts, Nantlle, Mrs. Jane Jones, Nantlle, a Mrs. Ellen Roberts, Cilgwyn.
ANGLADD.
Prydnawn Sadwrn, claddwyd gweddillion yr hen chwaer, Martha Thomas, Talnant, Cilgwyn, a hi yn 79 mlwydd oed.Brawd iddi hi oedd y diweddar William Thomas (Ty Newydd, Broneryri, Talysarn, yn ei ddydd yn arweinydd doeth a diogel i'r gweithwyr. Daeth tyrfa dda i'w hangladd, ac yn Macpelah, Penygroes y mae ei beddrod. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parch. R. W. Jones.