TORI I LAWR YN GYNAR.
Cystydd byr, ond hynod boenus, gafodd Mr. Albert Ellis, plumber, King's Road, Penygroes.Torwyd ef ymaith yn 29 mlwydd oed, a gedy mewn hiraeth weddw ieuanc a dau o blant. Hefyd mam, brodyr a chwaer yn ei dref enedigol, Llangollen
Cafodd angladd parchus prydnawn ddydd Iau, y Parchn W. Elias Williams, a D. C. Williams, B. A., yn gwasanaethu. Yn naear Macpelah y dodwyd ei weddillion i ophwys.