MARWOLAETH SYDYN W. EVANS.
Cyfarfu William Evans, Bryncelyn Uchaf, Talysarn, a damwain angeuol ar y 27ain o Chwefror, tra yn dylyn ei alwedigaeth yn chwarel Dorothea.Claddwyd ef yn mynwent Macpela, Penygroes, Mawrth y 3ydd, yn 42 oed. Mab oedd i'r diweddar John a Grace Evans, Fron, Dinbych.
Ei briod yw Laura Evans, merch ieuengaf y diweddar John Roberts, Werglodd Newydd, goruchwyliwr chwarel Gloddfa'r Lon, i'r hon y mae un brawd yn aros yn West Pawlet, sef H. J. Roberts.