DAMWAIN ANGEUOL YN CHWAREL TALYSARN.

Cyfarfyddodd Owen Owens, Bryn Llewelyn a David Jones, Fronheulog, Ty'n y Weirglodd, Penygroes, รข damwain ofnadwy yn Chwarel Talysarn, ddydd Iau diweddaf.

Ymddengys fod y ddau wrth y gorchwyl o anfon carreg dron i fyny gydag un o'r cadwyni, pryd y gollyngodd y gadwyn ei gafael ac y disgynodd y darn craig i'r dyfnder islaw. Tarawyd y ddau a enwyd gyda grym anarferol, a derbyniasant niweidiau trymion, yn neilltuol felly Owens, yr hwn a faluriwyd mewn amryw fanau o'i gorph. Daeth y meddygon i'r penderfyniad mai angenrheidiol ydoedd torri ei fraich, ond methodd y truan a dal y loes, a bu farw mewn dirfawr boenau ddydd Sadwrn.

Y Genedl ~ 18fed Mai 1887.