MEWN OEDRAN TEG.

Bore Mawrth, bu farw Mrs. Ann Griffiths, Quarry View, Penygroes yn 80 mlwydd oed. Un o hen frodorion hysbys y plwyf ydoedd, ac yr oedd yn adnabyddus i lawer yn y wlad.

Bu yn cadw tafarndy yn Llanllyfni, ac yn ddilynol ym Methesda. Yr oedd yn wraig garedig a chyfeillgar.

Bore Sadwrn, ym mynwent henafol St. Rhedyw, Llanllyfni, bu'r angladd. Mae amryw o'r plant yn y Gorllewin, a chydymdeimlir yn fawr a hwy yn ogystal a'r meibion sydd gartref.

Herald Gymraeg 13/01/1914


MARW.

Drwg genym gofnodi marwolaeth Mrs. Anne Griffith, Quarry View, Clynnog Road, yn 81 mlwydd oed. Yr oedd yn wraig hynaws, a charuaidd ac yn neillduol oherwydd ei glanweithfra. Bu am flynyddau meithion yn cadw y Quarrymen's Arms, yn Llanllyfni, ac wedi hyny y Prince of Wlaes ym Mhenygroes, ac hefyd ym Methesda. Yr oedd yn wraig adnabyddus iawn, ac yn gymeradwy bob maser gan yr ardalwyr.

Gedy dri o feibion a merch yn yr America, a thri mab yn yr ardaloedd hyn, ac y mae ein cydymdeimlad dyfnaf a hwy oll.

Yr oedd yr angladd yn un preifat, yn ôl ei dymuniad, a chladdwyd hi ym mynwent St. Rhedyw, Llanllyfni, lle gowedda ei phriod ers blynyddau lawer, sef "Owen Roberts y Quarry," fel yr adnabyddid ef.

Dymunir ar i'r papurau Americanaidd gofnodi yr hanes hwn, gan fod lluaws o berthynasau a chyfeillion i'r ymadawedig yng gnwlad fawr y Gorllewin.

Herald Gymraeg 20/01/1914