HARRY JONES, TALMIGNEDD UCHAF, PLWYF LLANLLYFNI.
GANWYD Harry Jones o rieni parchus oedd yn trigo ar y pryd mewn rhan o ffarm o'r enw Ffridd Baladeulyn, Nantlle, yn y flwyddyn 1800 (yn yr hwn le, 38 mlynedd yn flaenorol, y ganwyd y seraph tanllyd Robert Roberts o Glynog.) Nid oedd manteision addysg fydol na chrefyddol y pryd hyny yn debyg i'r hyn ydynt yn awr. Bu hyny yn golled ddirfawr iddo yntau, yn neillduol pan yr eangodd ei gysylltiadau bydol, ac y daeth ei ofalon yn drymach.Cafodd addysg ragorol gan ei rieni, mor bell ag y gallai y gwladwyr duwiol y dyddiau hyny roddi i'w plant, mewn cynghori, a.y. Nid oes rhyw lawer i'w ddywedyd am Harry Jones fel un yn feddianol ar alluoedd dyfnion a doniau helaeth; eto, y mae rhywbeth mewn cysylltiad âg ef ac sydd yn werth ei ddywedyd a'i "ysgrifenu, ie, yn y graig, â phin o haiarn ac â phlwm dros byth." Yr ydym yn bur annhueddol fel daearolion i ysgrifenu y pethau prisiadwy gan y nefoedd; talent a dawn ydyw y pethau y mae genym ni lygaid i'w gweled a dawn i'w canmol. Ond nid hyny sydd yn pwyso yn nghlorian y nef. Yr hyn sydd drwm yno, nid ydyw i'w gael yn aml yn y dysgedig a'r talentog, ond bob amser i'w gael yn y rhai y dywedir am danynt, "Da was da a ffyddlawn, buost ffyddlawn ar ychydig," a.y. "Yr hyn a allodd hon hi a'i gwnaeth;" ac yr oedd ffyddlondeb yn rhan bwysig o gymeriad Harry Jones.
Yr ydoedd ef yn meddu ar ddynoliaeth ragorol cyn cael gras. Dangosodd hyny yn eglur yn ei drefn ddoeth a'i ymdrechion di-ildio gyda'r byd hwn, ac yn darbod dros ei deulu.
Dygwyd ef i fyny fel chwarelwr, a dilynodd ei alwadigaeth yn chwarelau Nantlle, ac am ysbaid yn Llanberis, yn yr hwn le y daeth i gydnabyddiaeth â Jane Jones, merch i'r diweddar Thomas Jones, Cae-esgob, teulu o fri mawr fel crefyddwyr rhagorol gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, yr hon a ddewisodd fel ei gydymaith bywyd. Ar ol priodi, daethant i fyw i ffarm fechan o'r enw Rhosyrhuman, ger Llanllyfni; a chan fod ei deulu yn cynyddu, ac yntau rhwng y ffarm a'r chwarel wedi gwella cryn lawer ar ei amgylchiadau, pan y daeth Talymignedd (ffarm lawer mwy yn yr un plwyf) yn wag, symudasant yno, a chan ei fod wedi cael priod mor ddoeth ac ymdrechgar ag ef ei hun, cawsant yn y lle hwn brofi blynyddoedd o ddeheulaw y Goruchaf.
Ond yn sydyn daeth clefyd trwm i'r teulu, collodd ei briod a dwy o'i ferched, a hyny o fewn ysbaid wythnos o amser, ac yntau ei hun ar y pryd yn gorwedd dan yr un clefyd. Yr oedd y cyfaill bellach yn dechreu teimlo yn herwydd y golled ddaeth i'w ran yn marwolaeth Sian Jones, fel y galwai ef hi. Gyda llawer o briodoldeb y gallasai ef fyned drwy eiriau y gwr doeth, "Mi a gefais wraig rinweddol; gwerthfawrocach yw hi na'r carbwncl. Calon ei gwr a ymddiriedodd ynddi, fel na bu arno eisieu anrhaith. Hi a wnaeth i mi les, ac nid drwg, holl ddyddiau ei bywyd," a.y. Ond yn ddisymwth, cymerwyd hi ymaith - haul ei fywyd megys yn machludo, cymylau duon, gwgus, brochus, a chynddeiriog, wedi ymgodi dros holl wyneb ffurfafen rhagluniaeth.
Yn ol ei addefiad ef ei hun, yn yr ystorm fawr hon y dechreuodd roddi lle i feddylgarwch gyntaf erioed fel bod dau fyd. Yr oedd ef wedi arfer gwrando gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ond pan y daeth goleuni y rhai byw i oleuo ei ddeall a ffurfio ei galon, aeth pwnc yr enwadaeth yn ddibwys yn ei olwg; daeth y pechadur i'r golwg, a'i anghenion ysbrydol i'r teimlad; a dyma ei weddi beunydd cyn gadael o hono ei wely cystudd, "Arglwydd mawr, bydd drugarog wrthyf fi, bechadur, sydd yn y dyfroedd mawr, a'r tonau yn curo troswyf." Mor fuan ag y daeth i allu cerdded oddiamgylch, mae yn myned ac yn ymrestru gyda phobl yr Arglwydd yn eglwys fechan yr Annibynwyr yn Drwsycoed, a buan y troes i fod o wasanaeth mawr i grefydd mewn ystyr ysbrydol ac amgylchiadol.
Ei arferion cyffredin. - Nid rhyw lawer o bethau oedd gan Harry Jones i'w rhoddi heibio yn ei arferion ar ol y cyfnewidiad mawr yn hanes ei fywyd. Cofus genyf wrandaw un o hen ddiaconiaid (William Jones y gof, coffa da am ei enw) yn gofyn iddo, "Pa fodd y gorchfygodd y byd a myned mor annibynol ei amgylchiadau, ac yntau wedi cychwyn heb fawr ganddo?" Ei ateb oedd, "Bob amser pan yn fachgen, gorphenwn fy ngwaith cyn yr awn i chwareu; gofalwn, hyd y byddai yn bosibl, wneud pobpeth yn ei adeg, peidio gwario arian cyn i mi eu henill; ni phrynwn ddim oni byddwn yn llwyr argyhoeddedig fod ei angen; ac yn benaf oll, ni bum erioed yn ddifater iawn yn nghylch gofyn am fendith yr Hollalluog ar fy holl ymdrechion. Cyfarwyddwyd fi yn y pethau uchod gan fy rhieni anwyl pan yn fachgen." Byddai bob amser yn llym iawn yn erbyn i neb arall wario arian am bethau diangenrhaid, a byddai ei arswyd ar feilchion y fro.
Ei gymeriad oedd, mewn geiriau byr, yn eirwir a gonest, yn ddiymhongar, ond didderbynwyneb. Nid yn uchelgeisiol wrth fod yn eirwir; na, yr oedd ef felly heb yn wybod iddo ei hun; mewn gair, yr oedd yn eirwir naturiol a rhesymol. Yn ei fasnach gyda chynyrch ei ffarm, byddai bob amser yn ddiarhebol o gywir a gonest. Gofalai am bris y farchnad ar bob eiddo fyddai ganddo i'w werthu, ac os dygwyddai ei fod wedi methu, ac yn cael ei gymhell yn sydyn i newid ei feddwl i fyny, gofalai am ddigon o bwyll, am, medd ef ei hun, "y byddai y diafol bob amser bron yn cymeryd rhan mewn trafodaeth fyrbwyll wrth fasnachu," a.y. Pan y byddai arno eisieu prynu, os dygwyddai i ryw un ofyn yn afresymol oddiwrth bris y farchnad, nid hawdd fyddai i hwnw gael cyfleusdra i roddi pris ar ddim iddo drachefn.
Ei ddull o grefydda. - Yr oedd yn hynod ffyddlawn i ddilyn moddion gras, ac yn ufudd iawn i wneud ei ran er cynal y moddion. Rhan ei weddi bob amser fyddai geiriau Dafydd, "Chwilia fi a phrawf fi, gwel a oes ffordd annuwiol genyf, a.y. Tywys fi yn yr iawn ffordd." "O! yr hen golli'r ffordd yma sydd yn fy hanes i o hyd. Mi collaf hi eto oni chofi Di am danaf yn dy drugaredd. Mae cymaint yn hudo dyn o hyd - cyfeillion llygredig yn hudo, y byd yn hudo, y diafol, ac O! yr hen galon ddrwg yma yn hudo. Mi awn i uffern i'w canlyn nhw oni chawn ni nerth yr Ysbryd Glan.
Diolch byth, mae o ddigon yn drech na'r hen ysbryd drwg a'i holl lu i'w ganlyn. Dyro fo i ni yn nerth oddimewn, Arglwydd mawr." A phan y byddai yn terfynu ei weddi, dywedai, "Gad i ni gael dweyd wrthyt ti, O Arglwydd, ein bod yn gofyn ac yn dysgwyl pob peth yn enw anwyl Iesu Grist, dy fab, Amen."
Ei duedd wrth gynghori fyddai son am farw. "Pethau mor wael oedd balchder a mawredd bydol erbyn hyny. Y neb a gredo yn Iesu Grist a fydd cadwedig pan â nhw i farw. Cofiwch, ni frysia yr hwn a gredo. Hogia a genod bach, mi fyddwch yn dechreu brysio a rhedeg am noddfa pan yr ewch chwi i farw; ond cofiwch, os byddwch chwi a mina heb gredu cyn hyny, fydd y ffordd yn rhy bell i ni gyrhaedd y noddfa byth."
Addysgu eì blant. - Rhoddodd addysg i'w blant mor bell ag y dymunent, pa rai erbyn hyn sydd wedi myned ar wasgar, rhai wedi priodi a hen sefydlu yn y byd, ac oll mewn amgylchiadau hynod gysurus. Mae dau neu dri o honynt yn swyddogion eglwysig; un o honynt ydyw Henry Jones, Ysw., swyddog gwerthfawr yn eglwys Albion Park, Caer.
Yn myned oddicartref am y tro olaf. - Dacw yr hen wladwr parchus, Harry Jones, fel peth rhagluniaethol, yn cael ar ei feddwl fyned ar ymweliad â'i unig ferch, Mrs. Jones, priod Mr. Thomas Jones, Monachdy Gwyn, Clynog fawr yn Arfon; ac yn ddisymwth wedi cyrhaedd yno, cymerwyd ef yn glaf, o'r hwn glefyd y bu farw; a chan ei fod yn y Monachdy, ni arbedwyd traul na thrafferth o du y teulu na'r meddygon er ceisio ei adfer; ond yr oedd yr hen bererin wedi deall mai rhosydd Moab oedd yr orsaf hon yn ei ymdaith drwy y byd, ac ymroes ati hi i roddi prawf ar ei grefydd cyn myned i'r afon.
Y dydd olaf y bu fyw, torodd allan i weddio o ddifrif yn y geiriau a ganlyn - "Cymer drugaredd arnaf Arglwydd mawr, a dywed wrthyf dy fod wedi maddeu i mi bechodau fy oes i gyd;" ac yn sydyn, troes ei ddifrifwch dwys i fod yn sirioldeb dymunol, a dywedai yn eglur -
"Bydd canu uwch am Galfari,
Nas clywodd yr angylion fry,
Pan ddelo Salem bur yn llawn."
Bellach dacw y patriarch yn 81 oed, Chwefror 24ain, 1881, yn cau ei lygaid am y tro olaf yma; ac ni ddychymygwn mae'r peth nesaf yn ei hanes ydyw, ei fod wedi synu yn ddirfawr pan y cafodd ef ei hun yn sant pur-wyn ar balmant aur y drydedd nef, yn anog ei enaid, "Byth na thawed a chanu iddo Ef."
Claddwyd ef yn medd ei briod yn mynwent St. Rhedyw, Llanllyfni. Trefnwyd mai gwahoddedigion yn unig oedd i fod yn ei angladd, a hyny am ei fod mor bell o'i ardal ei hun; ond gofalodd yr eglwys alarus yn Drwsycoed am ddanfon dau o'i swyddogion, Mri. H. O. Jones a Phenees Jones, i fod yn bresenol, a dodasant hefyd arwyddion o alar ar y pulpud a sedd fawr y capel.
EI FEDDARGRAFF.
Harri gyfiawn hir gofir, - y gwladwr
Goleuedig, cywir;
Hunodd ef, wedi dydd hir,
O dan goron dyn geirwir. - G. Llyfnwy.
G. Lewis.