MR. RICHARD THOMAS, HAFODLAS, LLANLLYFNI.
Tachwedd 12fed, yn 24mlwydd oed, Richard, mab Mr. Richard Thomas, Halodlas, Llanllyfni, wedi nychdod am tros saith mis yn y darfodedigaeth.Pan y tybiai ei fod heb neb yn ei glywed, pan yn ei saldra, cyfaddefai yn ddirodres wrth yr Arglwydd nad oedd diolch iddo droi ato y pryd hyny, wedi bod yn esgeulus a diofal am hyny yn ei fywyd a'i iechyd, ond mewn dull edifeiriol a galarus erfyniai am faddeuant; nid oedd fel y gwelwyd llawer un dan ofnau marw, yn gwneyd addunedau lawer os caent fyw, y rhai a esgeulusid wedi cael adferiad; ond dywedai nad oedd waeth ganddo farw y pryd hyny pe gallai ond cael sicrwydd ei fod mewn cymod a'i Farnwr. Llawer a thaer a ffyddiog, credir fu gweddiau y cyfiawnion ar ei ran, a dywedai yntau, wedi clywed am hyny, 'Pwy a wyr na wrendy'r Arglwydd? Yn ei wylnos, traddodedd y Parch. John Jones Talsarn, bregeth bwysig ac effeithiol ar Job xvi' 22.
Cyn cychwyn ei ran farwol ar y 17eg i'w chladdu yn mynwent Llanllyfni, darllenodd a gweddiodd Mr. Griffith Jones, Cae'resgob, Llanberis. Dangoswyd caredigrwydd a pharch mawr tuag ato ef a'r teulu yn ystod ei afiechyd ac ymgasglodd tyrfa luosog iawn, tybid y fwyaf lluosog a welwyd ar y fath achlysur yn Llanllyfni, i ddanfon ei gorff i dy ei hir gartref.