MR. DAVID EDWARDS, LLANLLYFNI, PENYGROES.
Drwg iawn genym ddweyd fod damwain angeuol wedi cyfarfod llafurwr, o'r enw David Edwards, yn nghloddfa Penbryn, ger Llanllyfni, ar ddydd Iau, y laf o Hydref.Tra yr oedd yn llwytho meni o tan fwrdd peiriant (engine board) torodd y gadwyn sydd yn codi y meni ar y bwrdd (oddeutu 70 o latheni o'r gwaeled) a gollyngodd eu cynnyws, sef oddeutu l 1/2 tunell o bwysau, ar y dyn anffodus, gan ei dori bron yn ddau.
Y dydd Gwener canlynol cynnaliwyd celain-ymholiad ar ei weddillion o flaen H. H. Hughes, Ysw, a dychwelwyd rheithfarn o " Farwolaoth ddamweiniol."