DAMWAIN ANGEUOL.

Brydnawn ddydd Gwener, ychydig cyn un o'r gloch, cyfarfu David Morris, Ochryfoel, Llanllyfni, a damwain yn chwarel Dorothea. Yr oedd yn gweithio yn y gwaelod, pryd y daeth talp o'r graig i lawr gan ei daro yn ei ben. Daeth Dr. R. Owen, Penygroes, yno yn ddioed, a chludwyd ef o'r gwaith yng ngherbyd y meddyg. Gwelwyd ar unwaith nad oedd fawr obaith am adferiad, a bore Sadwrn bu farw. Adnabyddid y cyfaill wrth yr enw David Morris, Penybryn. Wedi'r ddamwain cauwyd y gwaith am y dydd. Gedy ar ol weddw a dau o blant, mam weddw, a brodyr a chwiorydd, ac y mae'r dyffryn o gwr i gwr yn cydymdeimlo a hwynt.

Herald Gymraeg 30/06/1914