MARW.

Drwg genym hheddyw eto orfod cofnodi marwolaeth Miss Judith Jones, Glafryn, geneth fechan tua deuddeg oed. Yr oedd ynddi lawer o neillduolrwydd. Yr oedd yn nodedig o garedig wrth greaduriaid direswm, ac yn talu sylw manylaf i'r gwersi, ac yn meddu ar gof da, yn fwy o blentyn natur na'r cyffredin o'i chyd-gyfoedion. Claddwyd hi yn mynwent Gorphwysfa, Llanllyfni, a gwasanaethwyd gan y Parch. G. Ceidiog Roberts, Llanllyfni. Rhoddwyd blodeu-dorch ysblenydd ar ei bedd gan blant yr ysgol ddyddiol a'r athrawon, fel arwydd fechan o'u parch a'u hedmygedd. Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu yn y brofedigaeth lem, ac yn enwedig Mrs. Judith Jones, ei nain.

Herald Gymraeg 12/05/1914