MARW.

Ym Mynwent Eglwysig Coetmor, dydd Iau, bu angladd y diweddar EDward Thomas, cyn bostfeistr Bethesda, efe yn 71 mlwydd oed. Yr oedd ef yn we a berchid gan bawb yn yr ardaloedd, ac nid anghofir yn fuan am ei garedigrwydd a'i gymwynasgarwch pan yn y llythydy. Ni bu ei barotach i gyfarwyddo yr anllythrenog gydag unryw anhawster, a hyn i raddau sydd i gyfrif ei fod mor ddwfn yn serch yr ardal. Erys enw "Edward Thomas, y post" yn anwyl am gyfnod maith ym Methesda.

Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parch. R. T. Jones, B.A., a'r Parch. J. W. Roberts, Glanogwen.

Herald Gymraeg 20/01/1914