MARWOLAETH MR. GRIFFITH JONES, BRYNBELLA.
Yr wythnos diwethaf bu farw Mr. Griffith Jones yn 48 mlwydd oed, ar ôl dioddef cystudd maith yn amyneddgar a thawel.Mab ydoedd i'r diweddar Henry Jones, saermaen.
Teithiodd lawer yn Awstralia a New Zealand ac yr oedd wedi manteisio ar hyny yn ei wybodaeth ac yn ei amgylchiadau.
Yr oedd yn aelod selog a ffyddlawn o Gymdeithas Ryddfrydig Bethesda tra parhaodd ei nerth, a mynych y cawsom fwynhau ei sylwadau craff ar wahanol bynciau y dydd yng nghyfarfodydd y gymdeithas.