MR. ROBERT EVANS, PANTGWYN, LLANIESTYN.
DAMWAIN ANGEUOL.
Ar foreu Sadwrn, ychydig amser yn ôl, llafurwr ieuangc allan o le, o'r enw Robert Evans, yn byw yn nghymdogeth Llaniestyn, Lleyn, yn Sir Gaernarfon, a adawai ei gartref gyda chi ei dad, ar y bwriad o fyned i Botacho, ym mhlwyf Nevin, i chwilio am le fel llafurwr amaethyddol. (Byddai y gwr ieuangc ar amserau yn ôl, yn arfer myned i Garn Madryn i ddal gwningod, a thybir mai hyn oedd achos yr amgylchiad presennol.)Yr oedd ei dad yn gyru gwartheg yn Lloegr; a'i fam a'i meddwl yn ei gylchyn hollol dawel, oblegid tybied ei fod wedi cyflogi. Y dydd Llun canlynol, daeth y ci i'w gartref, wedi teneuo gymaint, nes oedd bron yn analluog i sefyll. Ond ni amheuai y fam fod un digwyddiad annghysurus wedi cyfarfod a'i mab, o herwydd y dybiaeth a nodwyd.
Y dydd Mawrth canlynol, digwyddodd i fachgen - yn fyned i fynu hyd ochr ddwyreiniol Garn Madryn, gan gyfeirio at bart a elwir yn gyffredin Garn Bach; ar ei ffordd, gwelai het, yr hon a ddenai ei sylw gyntaf, ac yn fuan wedi hyny canfyddai ddernyn o wisg dyn, o dan gruglwyth o gerig rhy- ddion. Hysbysai y bachgen y newydd ar frys, a daeth amryw ddynion i'r lle gan ddechreu chwalu y cerig; ac erchyll i'w dweud, iddynt ganfod corph dyn wedi llygru yn drwm, yr hwn wedi hyny a ddeallasant ei fod yn gorph i'r gwr ieuangc a nodwyd uchod! Y dybiaeth gyffredin yw, ì'r gwr ìeuangc anffortunus fyned i'r lle ar y bwriad o ddal gwningod y tro hwn etto.
Cynaliwyd celain-ymholiad ar y corph, o flaen H. H. Hughes, Ysw. a dychwelwyd y rheithfarn o " Farwolaeth ddamweiniol."