Clefyd Heintus yn Llangybi, Eifionydd.

Ymwelwyd yn ddiweddar a'r gymydogaeth dawel uchod a rhyw glefyd heintus, a brofodd yn angeuol i luaws o blant. Nid oedd y meddygon yn unfarn yn nghylch ei natur, nac yn unfryd am ei darddiad.

Yn mysg y plant y dechreuodd fel rhyw ddolur gwddf, yn debyg i'r hyn a elwir yn diphtheria throats, ond amheual rhai meddygon mai hyny ydoedd.

Y ddau amgylchiad tristaf oedd yn Fronoleu, o'r lle y claddwyd dau blentyn, y naill ddiwrnod ar ôl y llall - y gyntaf oedd geneth fach bum' mlwydd oed, a boreu ei chynhebrwng hi bu farw ei brawd yn 14 mlwydd oed, a chladdwyd yntau dranoeth yn yr un bedd yn mynwent Eglwys Llangybi. A'r llall oedd yn Lôn Lâs, lle y bu farw, ar ôl cystudd trwm iawn, William David Jones, 15 oed.

Ymwelwyd hefyd â Sardis a Tyddyn Bach yn yr un gymydogaeth. Cyffyrddwyd a rhai mewn oed, ond yn ffodus ni phrofodd yn angenol iddynt hwy. Cauwyd Capel Pencaenewydd a Sardis y ddau Sul diweddaf, ac nid oedd Capel Helyg ond yn rhanol agored. Cadwyd y ddwy Eglwys, Llangybi a Llanarmon, yn agored, a defnyddiwyd y weddi neillduol ar achlysuron o'r fath. Y mae yr ysgolion dyddiol eto yn gauedig, a gorfodir y plant fod yn eu tai yn gynar bob nos.

Pan yn ysgrifenu, y mae arwyddion fod y clefyd yn treio, a chyda'r cyfnewidiad yn yr hin, hyderir y bydd iddo gilio yn gyfan. Taflwyd y gymydogaeth i fraw mawr.

Gohebydd Arbenig.

Y Llan 16/01/1914