Owen Thomas, Tyddyn y Llan Llangybi, Farmer : Will 1818.

Yn enw Duw, ac ewyllus Duw a wneler Amen. Ar y chweched dydd ar hugain o fis Rhagfyr yn y flwyddyn o oedran ein Harglwydd Iesu Grist un mil wyth gant a phedair ar ddeg (1814).

Myfi Owen Thomas o Dyddynyllan ym mhlwyf Llangybi yn Sir Gaernarvon, Ffarmwr, yn egwan o gorph, ond yn berffaith o goffadwriaeth a ddealltwriaeth i Duw byddo'r diolch, wyf yn gwneuthur ag yn ordeinio fy ewyllus a'm Testament diweddaf hwn yn y dull canlynol, sef yn gyntaf,

I rwyf yn rhoi ag yn gadael i fy mab Robert Owen y swm o bump swllt a dim mwy.

Hefyd I rwyf yn rhoi ag yn gadael i fy mab William Owen yr un fath swm o bump swll a dim mwy.

Hefyd I rwyf yn rhoi ag yn gadael i fy mab Thomas Owen yr un fath swm o bump swllt a dim mwy.

Hefyd I rwyf yn rhoi ag yn gadael i fy mab John Owen yr un fath swm o bump swllt a dim mwy.

Hefyd I rwyf yn rhoi ag yn gadael i fy merch Elizabeth Owen yr un fath swm o bump swllt a dim mwy.

Hefyd i rwyf yn rhoi, gadael ac yn cymmynnu yr lease neu'r daliad sydd gennyf o Dyddynyllan a phob mantais a budd oddiwrthi rhwng fy annwyl wraig Ellin Roberts a fy meibion Owen Owen a Griffith Owen, cyffelyb ran i'r naill a'r llall; a pha un neu rai bynnag ohonynt a fyddo yn marw, fod rhan hwnnw, honno neu rheini i fynd i rhai a fyddo byw ohonynt, hyd y diweddaf, ac nid i neb arall. Hefyd os bydd un ohonynt farw om blaen i fod yr unrhyw lease neu daliad uchod rhwng y ddau arall ohonynt; ond os priodiff fy mab Owen Owen fy ewyllus i yw iddo ef gael y taliad o bedair punt yn y flwyddyn o Dyddynyllan, a chael cario deg llwyth o fawn bob blwyddyn tra byddo ef byw, yn lle rhan o'r lease uchod, a bod iddo droi ei gefn o Dyddynyllan yn union pan briodo ef, a bod y pedair punt uchod i gael ei talu iddo ef gan y neb y byddo'r lease ganddo bob blwyddyn a chario'r mawn fel y dywedwyd o'r blaen tra byddo byw.

Am y gweddill o fy eiddo am daoedd o ba fath neu ryw bynnag y byddont ar amser fy marwolaeth I rwyf yn ei rhoddi rhwng fy unrhyw wraig Ellin Roberts a fy meibion Owen Owen a Griffith Owen, cyffelyb ran i'r naill a'r llall tan ammod i fy mab Owen Owen beidio a phriodi onide fod fy unrhyw eiddo a'm da rhwng fy ngwraig Ellin Roberts a fy mab Griffith Owen, a'r pedair punt blynyddol a chario'r mawn fel y dywedpwyd o'r blaen iddo ef.

Yr wyf yn gosod ac yn ordeinio fy unrhyw wraig Ellin Roberts a fy unrhyw feibion Owen Owen a Griffith owen yn gyd feddianwyr neu Executors o fy ewyllus diweddaf hwn, ag yn gwneuthur pob ewyllus neu ewyllysion eraill yn wag ag yn ddi-rym, ag yn cadarnhau hwn, ag nid yr un arall i fod yn ewyllus a'm Testament diweddaf. Yn dystiolaeth o hono mi a ddodais fy llaw a'm sel y dydd ar flwyddyn y crybyllwyd o'r blaen.

Cyhoeddwyd mynegwyd a thraddodwyd hwn gennyf i Owen Thomas y Testamentwr i fod fy ewyllus a'm Testament diweddaf yngwyddfod
John Jones
Richard Williams
Mary Humphreys

On the eleventh day of November in the year of our Lord 1816 the above Will was insinuated proved approved and in common form of Law decreed valid and Administration granted to the above named Executors, Owen Owen and Griffith Owen, they being first sworn in common form of Law, and that the whole of the Goods Chattels and Credits of the said deceased do not amount in value to £100.
before me William Williams Surrogate

Probate granted 13th November 1818.

Inventory made the 4th day of November 1816 on the Goods and Cattle of the late Owen Thomas Tyddyn y Llan in the Parish of Llangybi in the County of Carnarvon Diocese of Bangor

  £ s d
Saddle and Wearing Apparel 4 00 00
Household Goods 24 00 00
Corn and Hay 19 10 00
Potatoes 6 00 00
Gears and Cart 3 10 00
Plough and Harrows 1 05 00
Implements of Husbandry   15 00
Horned Cattle  17 05 00
Horses 11 00 00
Pigs 9 00 00
  96 05 00

The above Goods and Cattles valued by
Griffith Roberts
William Prichard

LlGC Ewyllysiau Plwyf LLANGYBI Parish Wills NLW