ER COF.

Blin gennym ydoedd deall am farw y chwaer, Mrs Jones, priod y diweddar Capt. Jones, Madoc Street gynt, a merch i'r diweddar Mr and Mrs Griffith Pritchard, Shop Newydd.

Bu y chwaer yn trigo yn ein plith am flynyddau lawer, ac yr oedd yn hynod boblogaidd gyda phawb o'i chydnabod fel chwaer rinweddol a charedig.

Claddwyd yr wythnos o'r blaen yn Capel Helyg.

Cydymdeimiwn a'r ddwy ferch a'r mab yn eu profedigaeth.

Yr Herald Gymraeg 08/04/1919