MARWOLAETH.
Yn hwyr nos Fawrth diweddaf, wedi cystudd byr ond blin, bu farw Gwyneth, unig ferch Mr. a Mrs. Evan Jones, Caerhydderch, Heol Fawr, a hi ond pum mlwydd oed. Ddydd Gwener rhoed hi i orffwys ym mynwent Capel Helyg, angladd anghyhoedd. Gwasanaethwyd yn y tŷ ac wrth Ian y bedd gan y Parch. J. Rhydderch.Anfonwyd blodeuglymau (wreaths) gan y rhai a ganlyn :—Tada, mam a Teddie Mrs. a Misses Kate ac Ellen Jones, Meirionva; Miss Menna Pritchard, Mount Pleasant; Henadur W. Eifl Jones, Eifl Hotel Mr. a Mrs. Hall Griffith, Avonwy; Mr. a Mrs. R. J. Jones, Eifl Hotel; Mr., Mrs. a'r Misses Norrie a Kathleen Wilson, Halifax Mr a Mrs. Richd. Jones, Argraffydd; Mrs J O. Jones, Borthwen, a Nurse Roberts, Meirionva; Mrs Hall, Sandilands; Miss Rhian Thomas, Gwalia Hotel: Misses Myfanwy a Dilys Roberts, Penlan Street; Miss Mag Ellen a Master John Richard Jones, Cartrefle; Mrs. a Miss Gwladys Green, Drayton House; Mr., Mrs, a Master Laurie Lightowler, Halifax Miss Martha Davies, Caerhydderch; Misses A. M a Blodwen Jones, 78, Heol Fawr; Miss Judith E. Gr iffith, Hirwaen House; Mr. a Mrs. R. D. Roberts, Iscoed; Mr. a Mrs., Jones, 66, Heol Fawr; Athrawon a Phlant Ysgol y Babanod, Troed-yr-allt, ynghyd a Gwasanaethyddion Caerhydderch.
Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu yn eu profedigaeth chwerw.
Dymuna Mr. a Mrs. Jones gydnabod yn ddiolchgar y cydymdeimlad ddangoswyd tuag atynt yn awr eu profedigaeth.
Am Lili Medi, mae ing;
Mwy, o'i darfod, mae dirfing
Lili calon orlon, hi,
Lwyswen, hudol, sy'n edwi.
Gwyneth fach gann! aeth i fedd!
Mewn awr y mynnai orwedd;
A gloes i rieni glan
Doi ei harlais fad, eurlan;
A'i gadael yn fud gwedyn
Is âr, am eu haelwyd synn!
Eithr hi, er aeth rhiaint,
Sy uchel, lwys, uwchlaw haint.
CYBI.
Marw Gwyneth mor gynar !-O ddu siom,-
Cuddio swyn mor hygar!
Cloi ei gwedd yn y bedd bâr
I'w theulu hirfaith alar.
Eithr heb glwyf, yn llawn nwyfiant-y mae hi,-
Mwyach hwnt i wywiant;
I blith y byth ddedwydd blant,
Aeth Gwyneth - i ogoniant.
R.F.W.