Marw'r Parch James Davies, Llithfaen.
Drwg genym hysbysu am farwolaeth y Parch James Davies, gweinidog ar eglwysi Annibynol Moriah, Llithfaen, a Salem, Fourcrosses, yr hyn gymerodd le yn ei breswylfod, Victoria House, Fourcrosses, ddydd Sadwrn, ac efe yn 61 mlwydd oed.Tarawyd ef yn wael iawn ddydd Sul y Pasg diweddaf, ac yr oedd yn amlwg ers amser fod y diwedd yn agoshau.
Cleddir ei weddillion yn mynwent Capel Helyg, ddydd lau. Bydd yr angladd yn cychwyn o'r tŷ am un o'r glocb, a chynhelir gwasanaeth yn nghapel Salem (A.), am haner awr wedi un.
Pregethir pregeth angladdol yn yr un capel nos Iau gan y Parch Thomas Williams, Capel Helyg. Brodor o Aberdar oedd yr ymadawedig. Yr oedd yn bugeilio yr eglwysi a enwyd ers deuddeng mlynedd ar hugain, ac yr oedd iddo barch mawr gan bobl ei ofal, a chan bawb a'i hadwaenai.
Cydymdeimlir yn ddwys a'i weddw yn ei phrofedigaeth lem.
Yr Udgorn 20/08/1913
Angladd y Parch James Davies Llithfaen.
Angladd y Parch James, Davies, Llithfaen. Ddydd Iau diweddaf, hebryngwyd gweddillion marwol y gŵr parchedig uchod i orffwys yn mynwent Capel Helyg, gan dorf luosog.Am un o'r gloch cynhaliwyd gwasanaeth yn nghapel Salem, Fourcrosses. Dechreuwyd trwy ddarllen gan y Parch H. W. Parry, Aberllefenni (gynt o'r Amerig) a gweddiwyd gan y Parch J. G. Owen, Conwil, Caerfyrddin. Wedi i'r Parch H. Davies, Abererch, ar yr hwn yr oedd gofal y trefniadau ynglyn a gwasanaeth yr angladd, ddweyd fod amryw o lythyrau wedi dod i law oddiwrth bersonau unigol ac eglwysi yn datgan cydymdeimlad a'i weddw a'r ddwy eglwys - Fourcrosses a Llithfaen siaradwyd gan y Parchn. Ellis Jones, Bangor, Owen Jones, Nant Ffrangcon (gynt Mountain Ash) W. Ross Hughes, Borth y Gest, W. Keinion Thomas, Porthaethwy (yn Saesneg), Mr Robert Griffith, diacon hynaf Fourcrosses, a Mr Robert Jones, diacon hynaf Llithfaen, Parch Mr Williams, ficer Llithfaen, Parchn. W. Jones, M A Fourcrosses, ac O. Lloyd Owen, Pontypridd. Terfynwyd trwy weddi gan y Parch Sidney Morris, Llithfaen.
Pan elid a'r arch allan yr oedd Mr Jones organydd Salem, Porthmadog, yn chwareu'r "Dead March."
Wrth y bedd yn Nghapel Helyg, cafwyd gair gan y Parch E. T. Evans, Morfa Nefyn, cadeirydd y Cyfarfod Chwarter. Darllenwyd rhan o'r gwirionedd gan y Parch D. W. Roberts, Cardiff Road, gweddiwyd gan y Parch R. W. Jones, Cilgwyn, a rhoes y Parch R. M. Edmunds, Llanbedrog, emyn allan i'w ganu. Yr oedd yr angladd yn nodedig o luosog a'r holl wasanaeth yn effeithiol a theimladwy.
Am saith, yn nghapel Salem, dechreuwyd y gwasanaeth gan Plenydd, a phregethodd y Parch Thos. Williams, Capel Helyg, bregeth angladdol, a chafwyd sylwadau pwrpasol am yr ymadawedig.
Yr Udgorn 27/08/1913
FOURCROSSES. ANGLADD Y PARCH. JAMES DAVIES.
Yn yr adroddiad am yr angladd uchod a ymddangosodd yn yr "Udgorn" am Awst y 27ain, fe adawyd allan enw y Parch Morgan Price, Chwilog, fel un o'r gweinidogion a gymerodd ran yn y gwasanaeth angladdol yn nghapel Salem.Gallwn sicrhau mai trwy ryw amryfusedd y bu hyn ac nid o unrhyw fwriad.
Diolchaf am ychydig ofod yr "Udgorn" i gywiro y gwall rhag y digwyddai i rywun gael ei arwain i dybio nad oedd Mr Price ddim yn yr angladd.