CLADDEDIGAETH PARCH. DAVID JONES.
Ddydd Mawrth, y 25ain cyfisol, rhoed i orffwys weddillion marwol y Parch. David Jones, Brynllefrith, yr hwn a fu farw y dydd Iau blaenorol, ac efe yn 87 mlwydd oed.Gwasanaethwyd yn y tŷ, yn y capel, ac ar lan y bedd, gan y Parch. T. Williams, y gweinidog, yr hwn ofalai am y trefniadau D. W. Roberts, Cardiff Road, E. T. Evans, Morfa Nefyn, Alun Jones, Chwilog, H. Davies Abererch, W. Ross Hughes, Borth-y-Gest, J. Rhydderch, Pwllheli, David Griffith, Bethel, Arfon, Morgan Price, Chwilog.
Yr oedd yr holl wasanaeth yn effeithiol a gweddus. Daeth tyrfa fawr ynghyd i dalu y gymwynas olaf i'r hybarch dad, a theimlai pawb ei fod yn un o ragorolion y ddaear. Er dangos ei pharch i un a fu yn ei gweinidogaethu am un mlynedd ar bymtheg gyda ffyddlondeb mawr rhoes eglwys Capel Helyg flodeudorch hardd ar ei fedd.
Derbyniwyd nifer luosog o lythyrau oddiwrth gyfeillion yn amlygu eu cydymdeimlad a'u gofid yn herwydd eu hanallu i lod yn bresenol
Cydymdeimlir a'r weddw a'r mab a'r ferch yn eu profedigaeth chwerw. Yr oedd trigolion yr ardal yn groesawus iawn o'r dieithriaid a ddaethant i'r angladd.
Am ein llyw. 'rym mewn llewyg - ac alaeth,
Gilio'n Dafydd edmyg; Towyd â main, ein edmyg,-
Paul a haul Capel Helyg.
Ond uwch nag angel telyn, - ydyw'r sant
Ar sedd brenin dillyn,
Yno ca yn ieuanc wyn-ganmol Ceidwad Yng ngwên
Ei gariad, yng nghan y gorwyn.
CYBI.