LLANGYBI.
MARWOLAETH HEN WLADWR.
Dydd Llun, Ionawr 25ain, yn 78 mlwydd oedd, bu farw, yn sydyn, Mr Richard Thomas, Cefncaerferch, Llangybi, tad Mr J R Thomas, swyddog iechydol.Yr oedd i'w adnabod fel Rhydddfrydwr a gwladwr selog, a chymerodd ran gyhoeddus yn etholiad bythgofiadwy y diweddar Syr Love Jones-Parry dros y sir, ac ym mhob etholiad er hyny. Fe gofir yn hir am ei areithiau doniol a ffraeth.
Cymerodd ei angladd le dydd Gwener, yn Capel Helig. Yr oedd cylch ei wybodaeth yn eang, ac yr ydoedd yn un tyner wrth y tlawd.