CABDEN DAVID ROBERTS. PENYBONT, LLANGWNADL.

Lluosog a pharchus iawn oedd y dorf a hebrynga weddillion marwol Cabden David Roberts, Penybont, i fynwent Eglwys y Plwyf hwn i dawel orphwys hyd ddydd brawd, wedi cyrrhaedd o hono yn nhaith yr anial ei 73ain mlwydd oed.

Dymuna y teulu gydnabod yn ddiolchgar y cyfeillion caredig a anfonasant eu cydymdeimlad gyda hwy yn eu profedigaeth chwerw mewn llythyrau, ac yn cwyno yn fawr na fuasent yn gallu dyfod i dalu y gymwynas olaf ddaearol i'w hen gyfaill morwrol hoff.

Gosodwyd ef i orwedd yn meddrod ei briod hoff, yr hon oedd wedi ei ragfalenu ers wyth mlynedd.

Cofnod Angladd Papur Newydd


CABDEN DAVID ROBERTS. PENYBONT, LLANGWNADL.

Angladd y Diweddar Gabden Roberts, Llangwnadl.

Lluosog a pharchus iawn oedd y dorf a hebryngai weddillion marwol Cabden David Roberts, Penybont, i fynwent Eglwys y Plwyf hwn i dawel orphwys hyd ddydd pawb, wedi cyrhaedd o hono yn nhaith yr anial ei 73ain mlwydd oed. Dymuna y teulu gydnabod yn ddiolchgar y cyfeillion caredig a anfonasant eu cydymdeimlad gyda hwy yn eu profedigaeth chwerw mewn llythyrau, ac yn cwyno yn fawr na fuasent yn gallu dyfod i dalu y gynwynas olaf ddaearol i'w hen gyfaill morwrol hoff. Iaith yr ymadawedig er yn fachgen ieuanc oedd sisial mud yr afonig fach, "Mor, mor i mi;" ond fy ngeiriau yn anfarwol Dewi Arfon, priodol iawn ymadrodd yr englyn naturiol hen :-

Diangodd o'r mor am weryd - lawr oer;
A thaflai'r un enyd,
Angor i for yr ail fyd,
I ddwfr y porthladd hyfryd.

Gosodwyd ef i orwedd yn meddrod ei briod hoff, yn hon oedd wedi ei ragflaenu ers wyth mlynedd, ac ar ei chistfedd y mae yr englyn tlws hwn :

Gwraig dda, ddiond, gwraig ddiddwndwr - un wyl
Yn elyn pob cynnwr';
Bu hon yn goron i'w gwr,
A chredodd i'w Chreawdwr.

Fel blodeyglwm serchog gof am dano hyderaf y caniatewch i'r llinellau anheilwng hyn gael ymddangos yma :-

Hwyliodd eirwon ddyfnion foroedd
I bell gyfandiroedd byd,
Er peryglon a phellderoedd
Iach drenwelai'n ol o hyd.
Ond mae'r awrhon wedi hwylio
Dros Iorddonen ddofn ei lli;
Byth yn ol ni wna ddychwelyd
O'i thymhestloedd enbyd hi.

Fe fydd arnom hiraeth calon
Am fwynhau ei siriol wedd;
Gweithred boenus i'w gyfeillion
Oedd ei ddodi yn y bedd
Mewn cymdeithas byddai'n llawen
Ac yn fywiog iawn ei bryd,
Ond er galar wele'r cabden
Dan dywarchen heddyw'n fud.

Ofer byth i'w berthynasau
Eto wel'd ei wyneb llon,
Yn dychwelyd o'i fordeithiau
Ar hynt mwy i'r ddaear hon;
I'w lwch heddwch foed i huno,
Nes y delo angel Duw,
Yn y diwedd i'w fwyn ddeffro
I fynd ato byth i fyw.

Codi a gaiff gyda'i briod,
I fyn'd tua Gwynfa lan,
A chant uno yn dragwyddol
Yn y sanctaidd nefol gan;
Moli'n felys gyda'u gilydd
Wedi cefnu ar bob poen,
Yn eu hafan perffaith ddedwydd
Yng nghwpeini Duw a'r Oen.
Ap Morus.