Ellis Roberts, Bryn Meina, Aberdaron, : Will 1857.
Myfi Ellis Roberts, Brynmina, Aberdaron Sir Gaernarvon wyf wael o ran iechyd ac egwan o gorph eto wyf gryf o feddwl a chof, wyf yn gwneyd ac yn ordeinio hwn i fod yn Ewyllus diweddaf am Testament sefYn gyntaf rwyf yn rhoddi i fy morwyn Jane Williams y gwelu a dillad ar cwbl perthynol iddo lle y bydd hi yn cysgu i fod yn eiddo iddi hi.
Ac hefyd rwyf yn rhoddi y gwelu ar dillad as cwbl perthynol iddo lle yr wyf fi yn cysgu i Elizabeth Hughes Badell gynt.
A hefyd yr wyf yn rhoddi ac yn cyfrannu i Ellis Roberts sef mab fy chwaer Lowry y swm o £12.
Ar gweddill om holl stock a'm heiddo perthynol i mi o bob math rwyf yn rhoddi i Evan a Griffith Roberts sef meibion fy mynededig chwaer Lowry i'w rhannu rhyngddynt. Pa rai wyf yn ei gwneuthyr ac yn ordeinio yn gyd Esgytorion o'm hewyllus a'm Testament hwn, gan ddileu pob ewyllus a Thestament arall a alla fod wedi ei wneyd gennyf. Gan gymeradwyo hwn a hwn un unig fel fy ewyllus diweddaf ac yn dystiolaeth o hwn yr wyf yn rhoddi fy llaw a'm sêl Ebrill 13eg 1857.
Seiniwyd seliwyd a chyhoeddwyd gan y dywededig Ellis Roberts fel ei Ewyllus a Thestament diweddaf yn ein gwydd ni y rhai ydym yn dystion.
Griffith Jones Caerhydderch
Thomas Prichard Brynffynon
On the 13th day of May in the year of our Lord 1857 the within written Will was insinuated proved approved and in common form of Law decreed valid and Administration granted unto Griffith Roberts one of the Executors within named, he being first sworn in common form of Law and that the whole of the Goods Chattels and Credits of the deceased do not amount in value to £10. Power being reserved for Evan Roberts the other Executor therein named to take upon him the Execution thereof whenever he shall lawfully demand the same. Before me Thomas Jones Surrogate.
The deceased died on or about the 17th day of April 1857.