MARW.
Ar y 24 ain o Awst claddwyd gweddillion y brawd ieuanc ac annwyl, Mr. Morris William Parry ym Mynwent y Bwlch, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. T. D. Lloyd B.A.Bu'n wael am amser maith. Yr oedd y fachgen ieuanc tawel, caredig, a'i rodiad yn syml a distaw, ac yn gymeriad rhagorol. Byddai bob amser yn ffyddlon gyda'r moddion hyd nes y torrodd ei iechyd i lawr. Teimlwn fod y corff a ddodwyd i lawr mewn gwendid yn sicr o gyfodi mewn nerth. Hiraethodd lawer am gael myned gartref at ei frawd, yr hwn a'i rhagflaenodd ychydig amser yn ôl. Ac erbyn hyn wele'r ddau oedd mor hoff o'r naill a'r llall gyda'u gilydd.
Ail fab ydoedd i'r diweddar Mr. Gruffydd Parry, Tanrallt House. Cydymdeimlir yn fawr a'i chwiorydd ieuainc sydd wedi cael cyfran helaeth o bethau chwerwon y byd hwn yn ystod y tair blynnedd diweddaf.
Huned mewn hedd