MARW CHWAER ADNABYDDUS.

Nos Iau, y 16eg cyfisol, bu farw Mrs M. A. Williams, Gwydrun, Abersoch, anwyl briod Mr. Owen Williams, (Lerpwl gynt).

Treuliodd Mr a Mrs Williams ran helaeth o'i hoes yn Lerpwl ac yr oeddynt yn adnabyddus i gylch mawr o gyfeillion yn y ddinas hono ac yn anwyl gan bobl yn Eglwys Grove Street ac yn Heathfield Road. Oddeutu tair blynedd yn ôl penderfynasant ddod i dawelwch y wlad i dreulio eu nawnddydd. Ni chafodd Mrs Williams wneyd yr oll a dymunai ac a fwriadai yma, oblegid goddiweddwyd hi gan afiechyd blin a maith. Er pob ymdrech a phob traul a gofal methwyd a'i hadfer i'w chynefiin iechyd.

Y dydd Mawrth dilynol daeth torf fawr ynghyd i'r Gwydrun i ddangos eu parch i'r ymadawedig. Gweinyddwyd yn y tŷ gan y Parch J. Mostyn (Abersoch gynt); W. Rheidiol Roberts, Bryngwran; R. M. Edmunds, Llanbedrog. Yn mynwent y Bwlch, cymerwyd rhan gan y gweinidogion enwyd, a'r Parch H. D. Lloyd (M.C.). Danghosodd yr ardal gydymdeimlad dwys a pharch mawr, ac yn sicr yr oedd Mrs Williams wedi enill lle dwfn iawn yn serchiadau yr holl ardalwyr.

Yn yr hwyr cynhaliwyd gwasanaeth coffa yng Nghapel Abersoch. Dechreuwyd y gwasanaeth gan y Parch R. M. Edmunds, a phregethwyd yn bwrpasol a theimladwy gan y Parch J. Mostyn. Yn ei sylwadau cyfeiriodd Mr. Mostyn at y nodweddion prydferth oedd mor amlwg yng hghymeriad Mrs. Williams. Dywedai mai aelod da, gofalus a charedig ydoedd, yn cymeryd dyddordeb neillduol yn holl waith Yr eglwys. Yr oedd yn un o'r gwrandawyr mwyaf craff a meddylgar, ac yn o'r addolwyr mwyaf parchus a defosiynol.

Ar ei haelwyd yr oedd yn urddasol, yn ddarbodus ac yn groesawgar. Yn yr oedfa darllenwyd penderfyniad o gydymdeimlad oddiwrth Eglwys Grove Street ac hysbyswyd fod llythyrau o gydymdeimlad wedi dod oddiwrth y Parchn D. Adams; O. L. Roberts, J. Rhydderch; J. Cynfal Jones, a llu eraill o gyfeillion.

Yr Herald Gymraeg 28/08/1917