MARW FICER ST. THOMAS, LLANDWROG.

Ganol yr wythnos taflwyd prudd-der dros ardal Groeslon a'r cylch, pan dorwyd y newydd am farwolaeth y Parch. R. Roberts, ficer St. Thomas, Llandwrog.

Yr oedd yn hynod boblogaidd.

Toddai i mewn i fywyd uchaf a chyhoeddus yr ardal, a gweithiai yn hwylus hefo'r gweinidogion Ymneillduol. Yr oedd yn wr caredig a hynaws, ac yn bregethwr gwych. Brodor o Bethesda ydoedd, a bu yn athro ysgol yn Penmon, sir Fon, am 14 mlynedd. Cymhwysodd ei hun i'r offeiriadaeth a rhoed iddo guradiaeth Conwy, wedi hynny Blaenau Ffestiniog a Bettws y Coed, a naw mlynedd i fis Chwefror y flwyddyn hon y daeth i St. Thomas. Aeth yn ddwfn i serchaidau pobl pob enwad ar gyfrif ei ysbryd llydan, ac y mae galar trwm ar ei ol. Gedy weddw ac un mab, a chydymdeimlir a hwy yn gyffredinol. Claddwyd dydd Sadwrn, yn mynwent St. Thomas.

Cafodd angladd tywysogaidd, y dorf fwyaf yn cael ei gwneyd i fyny o Ymneillduwyr ynghyd ag Eglwysywyr. Prawf amlwg oedd ei angladd ei fod yn barchus gan bawb yn ddiwahaniaeth.

Darllenwyd wrth y ty gan y Parch. D. A. Jones, Llandegai. Gweddiwyd gan y Parch T. H. Richards, Clynnog. Rhoddwyd emyn allan i'w ganu "Tragwyddoldeb mawr yw'th enw" gan y Parch. H. Morris, Llandwrog. Blaenorid yr orymdaith o'r ty i'r fynwent gan y gweinidogion, yna yr elor gerbyd, yna Canon J. P. Lewis, Llanystumdwy, gyda bachgen bach yr ymadawedig; yn dilyn, cerbyd yn llawn blodau; yna'r cyhoedd.

Wrth borth y fynwent, St. Thomas, derbyniwyd ef gan y Parch. W. Evans Jones, Llanfechell, yn yr Eglwys darllenwyd y Salmau gan yr Archddiacon J. Morgan, a'r benod gladdu gan Canon R. T. Jones, Glanogwen.

Terfynwyd y gwasanaeth trwy ganu "O Fryniau Caersalem ceir gweled," tra chwareuai Mr J. W. Roberts y "Dead March" ar yr organ.

Wrth y bedd gwasanaethwyd gan Esgob Bangor a'r Parch. J. T. Jones, Deon Gwledig Portdinorwic. Gweddiwyd gan y Parch. J. W. Wynne Jones, Caernarfon, a rhoddodd y Parch. T. Jones, Llanaelhaiarn emyn allan i'w ganu.

Gwelwyd yn bresenol yn yr angladd y Parch. R. Hughes, Bodewryd, Mon; - Evans, Llechcynfarwy; J. Davies, Llanerchymedd; B. Thomas, Felinheli; J. D. Jones, Bangor; J. W. Roberts, Glanogwen; Herbert Jones, Pentir; W. J. Williams, Pentir; R. A. Williams (Berw); R. Roberts, Waenfawr; D. Rees, Llanrug; D. L. Williams, Llanwnda; W. Williams, Rhostryfan; R. Hughes, Morgan Jones, J. Philips, Caernarfon; F. S. Davies, Trefor; J. Davies, Llanarmon; R. R. Hughes, Llanllyfni; J. Williams, Penygroes; E. Thomas, Talysarn; L. Jenkins, Llanberis, ac amryw o weinidogion Ymneillduol yr cylch. Pregethwyd fore Sul yn St. Thomas gan y Parch. J. Williams, Penygroes, ac yn yr hwyr traddodwyd pregeth angladdol, gan y Parch H. Morris, Llandwrog.

Brodor o Fethesda oedd yr ymadawedig. Ordeiniwyd ef yn y flwyddyn 1894, ac yn Ffestiniog y dechreuodd ei waith, yn 1897 daeth i Gonwy, ac yn 1904 i Fettws y Coed a'r un flwyddyn daeth i St. Thomas, Groeslon.

Yr oedd trefniadau yr angladd yn llaw Mr. W. Ellis, Ysgol y Cyngor, Penfforddfelen, a chariodd allan y gwaith ymlaen yn hynod drefnus.

Herald Gymraeg 19/05/1914