LLANBERIS A'R CYLCH.
MARWOLAETH.
Yn gynnar boreu Sadwrn, y 25ain cynfisol, bu farw Mrs Jane Williams, Elidir Street, Llanberis, yn 58 mlwydd oed, anwyl briod y diweddar Mr John Williams, marwolaeth yr hwn a gofnodwyd yn y newyddiadur hwn naw mis yn ol.Bu yn llesg am rai blynyddau, ond ar ol marwolaeth ei phriod, yr oedd yn amlwg fod amser ei hymddattodiad yn prysur agosau.
Yr oedd yn gymydoges garedig, yn wraig o ddeall cryf, ac o wybodaeth eang, yn yr hyn yr ymdebygai yn fawr i'w brawd, y diweddar Barch John Seth Jones, o'r America.
Gadawodd ddwy o ferched i alaru eu colled fawr am fam dyner a charedig.
Claddwyd yr hyn oedd farwol ohioni dydd Mawrth diweddaf, yn mynwent Llandinorwig.