MARWOLAETH.
Nos Sul, Tachwedd 17eg, bu farw Mr. Edward Jones, Bodsarah, yn 70 mlwydd oed. Yr oedd yn adnabyddus a chymeradwy iawn i luaws mawr o gyfeillion. Pysgotwr ydoedd wrth ei alwedigaeth, ac efe ydoedd y pilot fyddai yn dod a'r llongau i'r porthladd.Dioddefodd cystudd caled iawn am amser maith yn dawel.
Y dydd Iau dilynol hebryngwyd yr hyn oedd farwol ohono i fynwent Llandegwning. Gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parch. J. R. Evans, Hebron, ac yn yr Eglwys ac ar lan y bedd gan y Parch. Mr. James, Llaniestyn. Gorchuddid ei arch a blodeudyrch.
Cydymdeimlir a'r teulu yn eu profedigaeth.