MARWOLAETH.
Ddechreu yr wythnos tarawyd yr ardal hon a phrudd-der pan glywyd am farwolaeth sydyn y gŵr ieuanc llawen a charedig, Mr Evan D. Evans, sef mab y diweddar Mr Evans, ysgolfeistr, Llaniestyn.Yn Fflint y cymerodd yr amgylchiad le. Yno yr oedd y gŵr ieuanc addawol wedi cael lle yn gurad. Hebryngwyd ei weddillion at lwch ei dad a'i fam i Fynwent Llandegwning ddydd Mercher.
Nawdd y Nef fyddo dros ei weddw ieuanc yn ei phrofedigaeth chwerw.
Un ydoedd a'i fron heb frad, Siriol pan fyddai yn siarad.
A DORRWYD YN GYNAR.
Bu felly yn hanes ein cyfaill ieuanc, y Parch E. D. Evans, B.A. Dydd Gwener diweddaf y cymerwyd ef yn wael, a dydd Sabboth y bu farw er galar i'w briod ieuanc a'r teulu oll. Mab ydoedd i'r diweddar Mr. Evans, a Mrs. Evans, dau fu yn gwasanaethu yn ffyddlon fel ysgolfeistr ac ysgolfeistres yn Llaniestyn, a chof anwyl erys am y ddau yn y Llan.Am eu mab, derbyniodd ei addysg yn Ysgol Sir Bottwnog, ac wedi hyny aeth i Goleg Llanbedr i barotoi ar gyfer y wemidogaeth. Disglaer oedd ei gwrs addysgol a graddiodd yn B.A., gydag anrhydedd. Wedi gorphen yn y coleg cynygiwyd curadiaeth Tyddyn Gwyn, Ffestiniog, iddo, ond yr oedd yn rhy ieuanc i'w ordeinio. Pan y daeth i'w oed ordeiniwyd ef ym Mangor yn gurad yn Fflint, ac er mai, byr fu ei arosiad yn y dref enillodd barch nid bychan, a rhoddid gair da iddo fel pregethwr addawol.
Ond, fel y sylwyd, rhaid ei restru yn mysg y telynau a dorrwyd yn gynar. Cludwyd ei weddillion mewn modur o Fflint, a gorphwysant bellach yn naear mynwent Llandegwning, Lleyn, wrth ochr bedd ei rieni. Gwasanaethwyd yn yr eglwys henafol ac ar lan y bedd gan y Parch H. R. Roberts, Llanengan a W. Sylvanus Williams, Bottwnog.
Yn yr angladd yr oedd y Parch R. W. Jones, Cilgwyn, ewythr i'r ymadawedig. Trist yw'r amgylchiad, ac anhawdd ei esbonio, ond ceir gwybod y cyfan ar ôl hyn.
Heddwch i lwch y cymrawd a'm perthynas hoff.
Yr Herald Gymraeg 02/01/1917
MARW GWR IEUANC.
Drwg genym ddeall am farwolaeth a chladdedigaeth, y Parch. E. D. Evans, B.A., yr hyn a gymerodd le yn dra sydyn.Mab ydoedd i'r diweddar Mr. R. Evans, a Mrs. Evans, dau fu yn gwasanaethu yn ffyddlon, fel Ysgolfeistr ac Ysgolfeistres, yn y Plwyf uchod.
Am eu mab, derbyniodd ef ei addysg foreuol yn Ysgol Sir Bottwnog, a bu yn hynod Iwyddianus, drwy ei yrfa. Pan y daeth i'w oed, ordeiniwyd ef ym Mangor, yn gurad yn Flint, ac er mai byr fu ei arosiad yn y dref, enillodd barch nid bychan, ac yr oedd gan bawb air da iddo fel pregethwr dawnus, a deallus.