DANIEL LLOYD. DOUGLAS HILL, LLANDEGAI.
Drwg iawn oedd genyf glywed am farwolaeth Mr. Daniel Lloyd, Douglas Hill, Mynydd Llandegai, mab i'r diweddar a'r hybarch Arch-ddiacon Richard Lloyd, a brodyr iddo ydyw Mri. Lloyd, Bank, Bethesda, a'r athrylithgar John Lloyd, America.Yr oedd yr ymadawedig yn fawr ei barch gan bawb. Yr oedd yn foneddwr caredig, ac ni fu neb ffyddlonach nag ef ar bwyllgor cynorthwyol chwarelwyr y Penrhyn yn y sefyll allan diweddaf. Bu yn drysorydd gofalus i'r Gronfa, a mawr oedd ei ofal am yr hen a'r tlodion angenus.
Cafodd gladdedigaeth barchus annghyhoedd, brydnawn Sadwrn diweddaf yn mynwent St. Anns. Bydd yn golled i'r eglwys yn Hermon ar ei ol, ac erys ei goffawdwriaeth yn fendigedig.