CAEL HEN WR YN FARW.

Cynhaliwyd cwest ddydd Llun gan Mr. D. Griffith Davies ar gorph William Jones, 76 mlwydd oed, saer maen, Castell Llandegai.

Dywedodd y Rhingyll Evans iddo fynd i'r adeilad allan, lle y trigai yr hen wr, a'i weld yn gorwedd ar ei gefn ar lawr gyda ffon yn ei law. Yr oedd yn ymddangos iddo ef fel pe bai y dyn wedi syrthio o'i wely.

TYstiodd Arthur Jones iddo symyd y corph i adeilad allan oherwydd yr oedd llygod yn yr adeilad allan.

Tystiodd Hannah Jones oedd yn byw y drws nesaf i'r ymadawedig, ei bod yn ei adnabod ers blynyddau. Yr oedd yn cwyno er tair wythnos. Gwelodd ef y noson flaenorol yn cario llestr gwydr i'r ty. Tybiai ei fod yn cynwys llefrith wedi ei gymysgu a the. Hwyrach hefyd fod ychydig o bypur cayenne ynddo, oblegid fod rhywun wedi dweyd wrth y trancedig ei fod yn beth da at yr anadl.

Bwriodd y rheithwyr i farwolaeth gan ei achosi gan ludded neu waeledd naturiol, ond ni wyddis ei natur. Gofynodd y rheithwyr i'r Crwner anfon at y Cyngor Gwledig i ddweyd y dylasent yn yr achos hwn fod wedi anfon eu harolygydd iechyd i archwilio y ty a gwneud adroddiad arno

Herald Gymraeg 19/05/1914