MRS. GWLADYS HUGHES, (EURFRON ARFON).

Er fod yr enw hwn wedi dyfod yn bur adnabyddus er's tro, wrth yr enw Gwladys Hughes yr oedd y chwaer ieuanc dalentog hon yn fwyaf adnabyddus o hyd.

A gellir anturio dweyd nad oedd yr un o'n hadroddwyr cyhoeddus yn fwy adnabyddus yn Ngogledd Cymru na hi, nac yn fwy haeddianol o sylw a chlod.

Merch Timothy a Jane Hughes, y Foel Gron, Dinorwig, oedd hi. Hi a ddechreuodd adrodd yn gyhoeddus pan yn dair blwydd oed. Y mae y rhai oedd yn gwrando arni y tro cyntaf yn adrodd "Gwersyll bach Calfaria," yn cofio mewn dyddordeb am ei llais a'i dull, ac yn enwedig am dafliad ei llaw fechan pan y dywedai "Ffarwel i Moses mwy." Daeth i sylw yn gyflym, a dechreuodd enill gwybrwyon da yn ieuauc iawn. Cyn ei bod yn 18 oed, yr oedd hi yn gystadleuydd peryglus i adroddwyr goreu'r wlad. Hi a barai gymaint o syndod ag o foddhad i wrandawyr a beirniaid.

Ac fe fyddai gwrandawiad distaw, effro, dyddorlawn y bobl yn well clod iddi hi a'i gwaith na dim a allai beirniad ddywedyd, er mor frwdfrydig y byddai bron bob beirniad yn canmol ei hadrodd. Hi a enillodd lawer iawn o wobrwyon yn ystod ei hoes fer, yn arian, tlysau, llestri, a.y. Bu yn fuddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol unwaith. Er hyn i gyd yr oedd hi yn parhau yn wylaidd a diymhongar; ac nid oedd neb parotach na hi i roddi ei gwasanaeth yn rhad er mwyn acbosion teilwng.

A lle bynag y bvddai, a beth bynag fyddai nafur y cyfarfod, fe ofalai hi am adrodd darnau chwaethus, ac uchelryw fel rheol. Fe ddywedir mai y darn a ddysgodd ddiweddaf oedd "Yr Oedfa Olaf;" ond cafodd fynd i wlad na bydd oedfa olaf ynddi cyn cael cyfìe i'w adrodd yn gyhoeddus. Nid oes neb a'i clywodd na chydnebydd fod Eurfron wedi cael dawn adrodd nodedig iawn. Yr oedd hi yn rhagori mewn llais, mewn synwyr,. mewn yni, ac mewn ysbrydiaeth. Adroddai mor dda am y byddai yn gofalu am iawn ddeall pob brawddeg a phob gair, ac am ei bod mor fedrus i wneyd pob pwyslais yn gywir.

Ac wedi iddi unwaith weled ystyr neu bwyslais, ni byddai berygl iddi ei anghofio. Yr oedd hi yn eithriad, yn sicr, fel un yn rhagori mor hynod mewn cymaint o amrywiaeth o adroddiadau. Ond nid am adrodd yn unig y meddyliai Gwladys. Yr oedd hi yn ferch dda i'w thad a'i mam, ac yn fenyw ieuanc o dueddfryd grefyddol. Yn Hydref y flwyddyn ddiweddaf fe'i hunwyd mewn priodas â Mr. David Jones, o Lanllyfni. Nid oedd hi yn gryf erioed, ac yr oedd ei hiechyd wedi diffygio er's tro. Bu farw brydnawn Gwener y Groglith diweddaf, pan o fewn diwrnod i fod yn 27 oed.

Cludwyd ei gweddillion o Lanllyfni i'w claddu, mewn parch, yn mynwent Macpelah, Clwtybont. Prudd yw meddwl fod Eurfron wedi tewi; ac y mae'r cydymdeimlad yn fawr â'r rhai sydd yn galaru am dani.
Alafon.

Y Gymraes ~ Cyhoeddiad Misol darluniadol i Ferched Cymru ~ Hydref 1907.