MR. EVAN ELLIS WILLIAMS. GLYN TERRACE, DEINIOLEN.
MARW. Drwg gennym gofnodi marw Mr. Evan Ellis Williams, Glyn Terrace, a ddigwyddodd yn sydyn dydd Sadwrn cyn y diwethaf, yn 55 mlwydd oed.Nid oedd ei iechyd yn gryf ers peth amser, ond ychydig a feddyliai neb pan oedd yn chwarae biliards yn y Llyfrgell, yn y bore y buasai wedi ffarwelio a'r ddaear hon erbyn yr hwyr.
Gweithiai yn Chwarel Dinorwig, ac yr oedd yn wr poblogaidd ymysg ei gydweithwyr. Yr oedd yn aelod ffyddlon o eglwys yr Annibynwyr yn Ebenezer, a gair uchel iddo gan bawb a'i hadwaenai.
Gedy i alaru ar ei ol weddw, un mab ac un ferch, hefyd un brawd a dwy o chwiorydd ac estynnir cydymdeimlad gyda hwy yn eu galar.
Claddwyd ei weddillion dydd Mercher ym mynwent Macpela.