HUGH ROBERTS, BLAENYCAE.

Marwolaeth Hen Batriarch yn Ardal Llanddeiniolen Gogledd Cymru.

Fel y crybwyllwyd yn ein rhifyn diweddaf, bu yr hen bererin Hugh Roberts, Blaenycae, farw yn yr oedran teg o 90 mlwydd a chwe mis.

Fel yr ysgrifena gohebydd i'r "Herald Cymraeg," yr oedd iddo nodweddion neillduol, ar wahan i'w oedran mawr.

Cafodd ei eni yn y flwyddyn y gwnaed y ffordd bresenol o'r Felinheli trwy bentref Ebenezer i chwarelau Dinorwic, ar hyd pa un y bu gyda gweision a brodyr hynach nag ef yn cludo llechau i'r cei. Yr oedd hyn cyn gwneyd y ffordd haiarn gul a'r inclines trwy Clwtybont. Yr oedd yn cofio y llechau yn cael eu pwyso y pryd hyny yn y chwarel gyda chlorianau bychain, fel y gwerthir tatws a man nwyddau eraill yn ein dyddiau ni. Yr oedd hyn cyn bod y garret wedi cael eu hagor, ond yr Elidir yn llechwedd las o'i gwaelod i'w choryn. Byddai yn rhaid cludo pobl wedi eu hanafu i Glafdy Bangor.

Dyddorol fyddai ei glywed yn dweyd y cyfnewidiaidau gymerodd le yn ei amser ef yn y cymydogaethau hyn. Nid oedd yr un ty yn mhentref Ebenezer pan oedd ef yn fachgen. Yn wir, nid oedd ond nifer fechan o dai o Benybwlch, Fachwen, i lawr at Flaenycae. Gwelodd bedwar o adgyweiriadau ac ychwanegiadau ar hen gapel Ysgoldy. Yn ystod un o honynt, clywodd y diweddar Barch. Thomas Jones, Dinbych, yn pregethu yn Ffrith y Gerlan. Yr oedd drws hen dy Blaenycae yn isel iawn, fel pob ty y pryd hyny. Pan oedd y diweddar Barch. John Elias yn myned i'r ty o flaen yr hen flaenor Robert Roberts (sef tad Hugh Roberts), gwaeddodd R. Roberts arno, "Plygwch." "Ie," meddai Elias, "cyngor da iawn, rhy gefnsyth a phen uchel ydym o lawer yn y byd yma." Yr oedd Hugh Roberts wedi darllen llawer, ac yn meddu llyfrgell dda o lyfrau Cymraeg, o'r hen "Amserau" (William Rees), y "Gwyddoniadur."

Yr oedd ynddo allu arbenig i goflo yr hyn a ddlarllenai. Gallai adrodd rhanau helaeth o weithiau Williams Pantycelyn yn ei flynyddoedd olaf. Yr oedd o gymeriad a chyfansoddiad cadarn, yn dad tyner a chymydog hawddgar. Pan oedd ef tua, 30 oed, symudodd y teulu lluosog gan sefydlu yn ardal Blaenycae, Wisconsin. Un o honynt oedd Dafydd Foulk, gan yr hwn y prynodd Hugh Roberts Tynewydd. Y mae y Parch. R. T. Roberts, M. A., Racine, yn nai iddo, ac y mae iddo lawer iawn o berthynasau yn yr Unol Dalaethau.

Gedy ddwy ferch (Mrs. R. O. Williams a Mrs. R. C. Jones) i alaru ar ei ol.

Fel hyn yr englynodd Alafon iddo:

Hugh Roberts, wladwr hybarch - am oes faith
Grymus fu'r mwyn batriarch;
Oedd wr pur, yn haeddu parch
Gafodd bob dydd i'w gyfarch.

Y Drych Ionawr 18fed 1900.