MR. WILLIAM N. WILLIAMS. NINETYSIX, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Tachwedd 3ydd, 1865, Mr. Willam N. Williams, o Ninetysix, plwyf Remsen, mewn tŷ nith iddo yn nhref Caernarfon.

Brodor ydoedd o Langybi, sir Gaernarfon.

Ymfudodd i'r America yn 1832 a thrigodd yn amgylchoedd Remsen yr holl amser. Llafuriodd yn galed, a chollodd ei iechyd yn yr ymdrechfa â phethau amser, a phenderfynodd fyned drosodd i Gymru am wellhâd, ond yn y gwrthwyneb i hyny y bu, gafaelodd afiechyd arall ynddo at yr hyn oedd eisoes, a elwir English cholera. Dioddefodd gystudd trwm yr hwn a ddybenodd yn augau iddo, yn mhell oddiwrth ei deulu ond yn mysg ei berthynasau yno. Cafodd bob gofal ac ymgeledd. Yr oedd yn ymwybodol ei fod yn marw, a threfnai at hyny.

Dywedai yn hyderus am ei obaith yn Nghrist yn ei oriau olaf, ac anfonai felly at yr eglwys lle yr oedd yn aelod ynddi yma. 'Proffesodd grefydd dros lawer o flynyddoedd ac yr ydoedd yn un diwyd am gyrchu i foddion yr efengyl a chroesawu pregethwyr, ac ereill yn ei dŷ.

Gadawodd wraig a merch i alaru ar ei ôl pa rai sydd mewn tristwch a hiraeth mawr am dano, ond gadawodd hwynt yn gysurus yn eu hamgylchiadau.

Claddwyd ef yn Llanddeiniolen yn ochr ei frawd, a gweinyddodd y Parch. William Griffith yn ei angladd. Gobeithiwn y bydd y tro chwerw hwn yn fendith i'r weddw a'r ferch ymddifad o briod a thad ymdrechgar a gofalus amdanynt. Bu farw o ddeutu 60 mlwydd o'i oedran.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ionawr 1866.